Expert outreach/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol
ENGLISH
Ar gyfer y prosiect Wicipediwr preswyl gwreiddiol cliciwch yma
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Wikimedia UK, a'r gymuned golygu wedi gweithio gyda'i gilydd ers 2014 i gynnal Wicipediwr Preswyl ac ym mis Awst 2017 penododd y Llyfrgell Genedlaethol Wicimediwr parhaol i'w staff. Bellach mae Wikipedia a'i chwaer-brojectau yn agwedd graidd o weithgareddau a gwasanaethau'r Llyfrgell. Gan adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus rhwng y Llyfrgell, Wikimedia UK a chymuned Wiki, bydd y Wicimediwr Cenedlaethol yn arwain gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chasgliadau'r Llyfrgell, Cymru fel cenedl a'r iaith Gymraeg. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Wicipedia, [[cy:defnyddiwr:jason.nlw|Jason Evans]
Nodau ac amcanion
- Hyrwyddo hanes, iaith a diwylliant Cymru ar lwyfannau Wikimedia.
- cynorthwyo efo adeiladu, tyfu a chynnal cymunedau o olygyddion newydd.
- Darparu mynediad agored i gynnwys digidol o'r Llyfrgell Genedlaethol trwy lwyfannau Wikimedia.
- Gweithio gyda'r Llywodraeth Cymru, y sectorau addysg a diwylliant i adeiladu partneriaethau, hyrwyddo mynediad agored ac annog ymgysylltu â phrosiectau Wikimedia.
- Sicrhau cyllid ar gyfer, a chyflwyno, prosiectau ar gyfer gwella ansawdd a chwmpas yr Wicipedia Cymraeg.
- Datblygu a chyflwyno prosiectau Wiki i wirfoddolwyr y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a datblygu'r cynllun ysgolheigion preswyl Wiki.
Gweithgareddau
Bydd gweithgareddau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â'r rhaglen yn cael eu cofnodi a'u diweddaru'n rheolaidd ar y dudalen hon.
Prosiect Wici-Iechyd
Yn dilyn llwyddiant y prosiect Wicipop, a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru, gwnaeth y Llyfrgell Genedlaethol gais llwyddiannus am £40,000 gan y Gymraeg Llywodraeth er mwyn rhedeg prosiect 9 mis gyda'r nod o wella cynnwys cysylltiedig ag iechyd ar y Wicipedia yr iaith Gymraeg. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned, gan sicrhau rhyddhau testunau iechyd trwyddedig agored a defnyddio data, a chyfieithu peirianyddol i gynhyrchu cynnwys Wikipedia yn yr iaith Gymraeg yn awtomatig. Prif nodau'r prosiect yw:
- Creu 3000 o erthyglau newydd yn ymwneud â iechyd yn yr iaith Gymraeg.
- Cynnal 4 Golygathon mewn lleoliadau ledled Cymru.
- Datblygu technegau ar gyfer cyfieithu a safoni termau meddygol yn yr iaith Gymraeg.
Delweddau ar Comin
Gall gweld yr holl delweddau mae'r Llyfrgell wedi rhannu gyda Wikimedia yma
Prosiectau Gwirfoddoli
Gall gweld cofnod o brosiectau a chynhaliwyd efo'r tîm gwirfoddoli'r Llyfrgell yma
Digwyddiadau
Ysgolheigion Preswyl Wicipedia
Yn Hydref 2016 Y Llyfrgell Genedlaethol oedd y corf cyntaf ym Mhrydain i penodi Ysgolheigion Preswyl Wici o dan gynllun y Wiki Education Foundation. Gallwch ddylyn y prosiect yma
Ysgolheigion Preswyl Wikidata
Ym mis Ebrill 2016 y Llyfrgell Genedlaethol oedd y sefydliad cyntaf yn y byd i gynnal ysgolhaig preswyl Wikidata. Gallwch ddilyn cynnydd y gwirfoddolwr yma
Adroddiadau misol
Adroddiad llawn y cyfnod preswyl | ||||
---|---|---|---|---|
Sefydliad | Enw'r Preswylydd | Cyfnod | Dyddiad yr adroddiad | Adroddiad llawn |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Jason Evans | 19 Ionawr 2015 - 19 Gorffenaf 2015 | 16 Awst 2017 | Darllen yr adroddiad llawn |