Cynhadledd WiciAddysg, 2013

From Wikimedia UK
Revision as of 13:03, 1 October 2013 by Llywelyn2000 (talk | contribs) (EduWiki Conference 2013/Schedule)
Jump to navigation Jump to search

English | Cymraeg

Cynhadledd WiciAddysg, 2013
yn: Future Inns, Bae Caerdydd
Dydd Gwener 1 - Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2013

Cydlynir gan: Toni Sant: toni.santatwikimedia.org.uk ar ran WMUK
Bwcio: agorir ym Medi 2013 - Cost: i'w gadarnhau (gan gynnwys ysgoloriaethau)
Cysylltwch gyda'r adran addysg: atwikimedia.org.uk, +44 (0)7885 980 536
Hashtag: #EduWiki #WiciCymru

Y wawr yn torri dros y Bae


YR ALWAD AM FREUDDWYDION!

Galwad am olygathon a hacathon - bellach wedi cau.


Mae'r alwad am gynigion ffurfiol hefyd wedi cau a bydd pawb a ebostiodd gynnig yn derbyn ateb erbyn yr ail wythnos o Fedi. Rydym hefyd yn ystyried y cynigion gwreiddiol a dderbyniom gan aelodau o gymuned WMUK are currently also being processed.

Gallwch weld y daflen amser, fel mae'n datblygu yma.

Cynhadledd WiciAddysg, 2013 yw'r ail gynhadledd a drefnwyd gan Wikimedia UK, ac a fydd yn canolbwyntio ar brosiectau addysgol

Mae'r dudalen hon yn ymwneud a chynllunio'r gynhadledd gyda brws bras.

Bydd y dudalen, felly'n cael ei datblygu i syniadau mwy concrit, a threfniadau mwy manwl wrth i ni nesau at y dyddiad.

Mae can croeso i chi gysylltu â Toni Sant (Trefnydd Addysg Wikimedia UK) neu Robin Owain, Rheolwr Cymru os oes gennych gwestiynau neu farn bersonol neu gadewch nodyn the talk/yma yn y man trafod.

Ynghylch Cynhadledd WiciAddysg, 2013

Bydd thema'r gynhadledd yn ymweud â'r canlynol:

Mewn papur gwyn diweddar gan TurnItIn, y gwasanaeth atal llên-ladrad ar-lein (online plagiarism) a gaiff ei ddefnyddio ar hyd a lled addysg uwch yng ngwledydd Prydain, ceir y farn ganlynol: "Wikipedia has an outsized presence as a content source for student writing".[1] Sail y papur gwyn hwn ydy dadansoddiad o 112 miliwn o destunau a gopiwyd allan o 28 miliwn o bapurau myfyrwyr a gyflwynwyd i TurnItIn rhwng Gorffennaf 2011 a Mehefin 2012. Roedd 11% o'r testunau a gopiwyd yn dod o Wikipedia. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn datgan fod gan Wicipedia rinweddau addysgol cryf o ran ei werth addysgol. Argymhella TurnItIn "addysgu'r myfyrwyr mai gwerth pennaf Wicipedia ydy darparu crynodeb wedi'i guradu (a curated summary) ar y pwnc dan sylw, ac y dylent ddilyn y cyfeiriadau a'r ffynonellau ar waelod y dudalen er mwyn gwiro drostynt hwy eu hunain geirwiredd y darn a dinoethi'r ffynhonnell wreiddiol ar yr un pryd.[2]


Y Gynulleidfa

Bydd rhwng 80 - 120 yno o wahanol feysydd:

  • Addysg Uwch
  • Ysgolion Uwchradd
  • Addysg Gydol Oes

Themaâu'r Gynhadledd

Bydd y gynhadledd yn ymdrin â'r themâu canlynol, (ymhlith eraill):

  • Rhaglen Addysg Wikipedia
  • Adnoddau Cynnwys Agored
  • Llythrennedd-digidol; wici-lythrennedd a meddwl y tu allan i'r bocs
  • Asesiadau ac achrediadau
  • Cymunedau addysg agored megis Wikiversity


Mae Wikimedia UK wedi galw am bapurau, cyflwyniadau, dadleuon a/neu bosteri, yn enwedig rhai sy'n ymdrin a thema papur gwyn TurnItIn.

Galwyd hefyd am baneli trafod o dri neu bedwar a chafwyd nifer eitha swmpus ohonynt.

Taflen amser

ar y gweill

Yn dilyn y Gynhadledd bydd gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal megis taith gerdded a golygathon nos Sadwrn a bore Sul.

Panorama o Fae Caerdydd, man cynnal y Gynhadledd


Cysylltiadau lleol

Eisioes mae gennym nifer helaeth o gysylltiadau sy'n ymwneud â'n prosiectau a chynnwys agored, gan gynnwys: (ychwanegwch yma, os gwelwch yn dda)

Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd

On a practical note could there be a joint working group for this to avoid duplication and contradiction and encourage more people to get involve? Jon Davies (WMUK) (talk) 15:05, 15 July 2013 (UTC)

References

  1. TurnItIn White Paper. 'The Sources in Student Writing - Higher Education, tud.10
  2. ibid. tud.11