Volunteer/Join us handout/cy
First page
- (Underneath logo on left side of page)
"...cefnogwch fynediad y cyhoedd i gynnwys agored, gwyddoniadurol. Cynorthwywch y cyhoedd i gyfrannu at y cynnwys agored hwnnw ac i'w ddefnyddio... "
- - Amcanion elusennol Wikimedia UK
- (In green box on right side of page)
Pan glywch y gair 'Wikimedia' am beth y meddyliwch? Wikipedia, efallai, sef gwyddoniadur mwyaf y blaned? Caiff ei darllen gan hanner biliwn o bobl leled y byd - pob mis! eto i gyd, mae Wikimedia'n llawer mwy na hyn!
Yn y 21ain ganrif bydd mwy o ffonau clyfar nag o bobl! Ar hyn o bryd, ceir llawer o rwystrau rhag mynediad rhwydd a hawdd i wybodaeth i lawer o bobl ar draws y byd. Weithiau cânt eu hatal rhag derbyn addysg gan dlodi neu wleidyddiaeth ond ar adegau gan drwyddedau caëdig megis "Hawlfraint y Goron", hawlfraint NC "Non-commercial" neu "Hawlfraint Cyngor Sir Rhywle neu'i Gilydd"! Mae miliynnau o adroddiadau, ffotograffiau a ffeiliau eraill allan o gyrraedd y cyhoedd. Ein breuddwyd ni yw datgloi'r cloeon hyn gan roi'r cynnwys ar drwydded agored megis CC-BY-SA fel y gall pob un copa walltog gael mynediad rhwydd a rhydd i'r wybodaeth.
Gall cefnfor o wybodaeth rhydd, fel Wicipedia, wedi'i sgwennu'n wrthrychol, niwtral a gyda ffynonellau dibynadwy fod yn arf grymys iawn i genedl fechan. A gyda dros 280 o ieithoedd wedi uno i greu un gwyddoniadur enfawr, mae llais i bawb, o bellter byd a hwnnw'n llais annibynol, anghonfensiynol, grymus. Prif waith Wikimedia ydy cefnogi golygyddion Wikipedia a'i chwiorydd, ac mae wedi ymglymu i wneud hynny drwy'r byd. Wicipedia (efo "c" ydy'r Wikipedia Cymraeg) ac mae ganddi dros 50,000 o erthyglau. 'Viquipèdia' ydy enw'r Wikipedia Catalaneg ac mae ganddyn nhw dros 400,000 o erthyglau!
Mae Wikimedia UK wedi'i chofrestru'n elusen ac wedi partneru gyda Wici Cymru i genhadu dros gynnwys agored a gwybodaeth addysgol rhwydd ei chaffael. Gweithiwn i gefnogi miloedd o olygyddion sy'n gweithio o'u tai eu hunain yn adeiladu'r nyth morgrug enfawr hwn a alwn yn Wikipedia. Mae pob brawddeg mae nhw'n ei gyfrannu, pob llun, pob clip sain a fideo yn cael ei drwyddedu ar un o drwyddedau Comin Creu (neu Creative Commons) sef un arall o chwiorydd Wicipedia. Ac mae'r drwydded hon, wrth gwrs yn gwbwl agored!
Drwy wledydd Prydain rydym yn gweithio gyda galeriau, archifdai, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd o'r radd flaenaf; a gyda'r sefydliadau hyn gweithiwn i ryddhau gweithiau nad ydynt hyd yma wedi gweld golau dydd. Rydym yn gweithio gyda'r byd addysg ar ddulliau newydd o ddysgu mewn cymuned o fyfyrwyr byd-eang drwy gyhoeddi aseiniadau a phapurau ysgolheigaidd yn fyw ac i bwrpas. Gweithiwn hefyd gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau fod y Gymraeg, a ieithoedd lleiafrifol eraill, ar flaen y gad ddigidol. Mae llawer iawn o waith wedi'i ryddhau'n barod, ac yng Nghymru rydym yn hynod o ffodus fod ein llywodraeth gant-y-cant y tu ôl i'n hymgyrchoedd ac yn flaenllaw iawn o ran cynnwys agored. Maent wedi rhyddhau miloedd o ffotograffau cyfoes ar drwydded agored CC-BY-SA ar Flickr. Mae ton o frwdfrydedd yn llifo drwy'r byd - a gallwch chithau fod yn rhan o'r don honno.
Second page
- (Bottom right image): File:UK Wikimedian of the Year 2013 - Chris Keating and Robin Owain 1.JPG
- (Caption): Chwith: Robin Owain, Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru gyda Chris Keating, Cadair WMUK. Yn y llun mae Chris yn cyflwyno gwobr GLAM i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, enillydd y wobr a gyflwynir yn flynyddol i'r sefydliad mwyaf blaenllaw o ran cynnwys agored, drwy wledydd Prydain.
Y Mudiad Wikimedia
Imagine a world in which every single person on the planet is given free access to the sum of all human knowledge. That's what we're doing.
- Jimmy Wales, sefydlydd Wikipedia, 2004
Unigolion a grwpiau bychain ledled y byd ydy'r mudiad Wikimedia, a'r cyfan yn rhannu'r un amcanion. Perchennog y nod masnach 'Wikimedia' ydy Sefydliad Wikimedia (sef Wikimedia Foundation neu WMF). Mae'n fudiad di-elw wedi'i gofrestru yn Unol Daleithiau America, ac ef yw'r corff sy'n cynnal y gweinyddion cyfrifiadurol. Ar y gweinyddion hyn y saif holl brosiectau Wikimedia. Mae i Sefydliad Wikimedia nifer o rannau, gan gynnwys grwpiau thematig, grwpiau defnyddwyr a siapterau daearyddol megis Wikimedia UK, sef y siapter ar gyfer Wicipedwyr Cymru, yr Alban, Cernyw, Lloegr, Manaw a Gogledd Iwerddon.
(In a pullout box on left side.)
Wicibrosiectau
Y chwaer hynaf yn y teulu ydy Wikipedia, ond mae eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Comin Creu, sef stordy digidol o destun, fideo, sain, Wiciadur, Wicidestun (ar gyfer gwaith a gyhoeddwyd megis fersiwn 1911 o Britannica) a Wicilyfrau (casgliad o werslyfrau a llawlyfrau) a Wicidata sy'n crynhoi llawer iawn o wybodaeth yn ganolog megis newid o un iaith i'r llall. Ceir nifer o brosiectau eraill nad ydynt ar gael yn Gymraeg hefyd, megis Wikinews. Mae rhyngwyneb Cymraeg ar gael ar gyfer pob prosiect, a gallwch ei ddewis drwy fynd i 'Dewisiadau' (top dde). Mae'r prosiect Meta'n ymwneud â chodio, a'r dechnoleg sy'n caniatáu i bopeth weithio. Er enghraifft, drwy lafur diflino ein defnyddwyr (ee Lloffiwr) mae Wicipedia ar gael yn Gymraeg ar eich ffonau llaw symudol. Mae holl feddalwedd a chôd Meta wedi'i drwyddedu'n agored, yn rhydd i bawb drwy'r byd ei ddefnyddio, fel y dymunant.
Cynnwys rhydd
Beth yw cynnwys rhydd? Unrhyw waith creadigol sydd, i raddau helaeth, yn rhydd o hawlfraint a chyfyngiadau cyfreithiol ac y gellir ei ddefnyddio i unrhyw bwrpas dan haul - a gall y defnyddiwr elwa o'r defnydd hwnnw. Mae'r cynnwys yn rhydd i'w ddefnyddio, i'w astudio a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd i'r byd mawr. Gall y darllenwr hefyd ail-ddefnyddio'r cynnwys, ei gopio neu ei addasu a'i wella a rhannu'r gwaith newydd hwn hyd yn oed, cyn belled a bod y gwaith yn cynnwys trwydded cymwys megis CC-BY-SA.
Mae cynnwys rhydd hefyd yn cynnwys gwaith sydd yn y parth cyhoeddus ee gwaith sydd allan o hawlfraint. Fe welwch hefyd ar Wikipedia (ac mae hyn yn cynnwys y Wicipedia Cymraeg) gynnwys sydd wedi'i drwyddedu ar un o drwyddedau Comin Creu (Creative Commons), ac mae'r trwyddedau hyn i gyd yn arddel y gwerthoedd rhydd uchod. Bwriad y trwyddedau hyn yw sicrhau fod y cynnwys, neu'r wybodaeth, ar gael yn rhydd ac am ddim i bawb drwy'r byd, yn storfa gyfeiriol werthfawr na ellir ei reoli gan na llywodraeth, deddfau hawlfraint caeth na rhagfarn.
Third page
Be a part of the world's largest open knowledge project
How does Wikimedia UK fit into this?
Wikimedia UK operates throughout the UK in a number of different ways. The charity has an office presence in London, and has supported partnership work with cultural institutions in Newcastle, Edinburgh and Bristol as well as having members of staff based in North Wales and Yorkshire. It hosts a full calendar of events in cooperation with leading volunteers who have identified or offered to support events that range from focusing on editing, 'backstage pass' tours of galleries and museums, to talks, photo tours and workshops.
In Wales the Living Paths project...
What are the different ways people can get involved?
The exciting thing is that these are events are often run aimed at a local audience, and led by volunteers. Staff can provide support in terms of training materials or setting up the event, but bringing together new editors and working to change and improve content is in the hands of those who chose to do something exciting that will have an impact. Broadly there are four types of roles that go into Wikimedia UK:
- Editor
- Event coordinator
- Organise
- Trainer
Fourth Page
- (left side)
Membership
You can also demonstrate your support for the chapter by becoming a member. Members' have the opportunity to elect the Trustees of the charity, attend members' specific events and receive a monthly newsletter with updates about the Chapter and the movement - they are responsible for holding the Trustees to account and ensuring the chapter is governed prudently and fulfilling the public benefit requirement of Wikimedia UK's charitable objects.
Membership fees are determined by the membership and are £5 for an annual membership term which entitles you to full voting rights in the charity and the opportunity to apply for micro grants to support editing work if you wish.
Get involved
If you would like to express interest in volunteering or applying for membership you can fill out the form opposite and post it at no cost - you will receive an email with instructions for how to join online or volunteering opportunities that match your interest in your area.
So, take two minutes to fill this out and pop it in the post - and join a vibrant community of people taking part in delivering the Wikimedia vision in the United Kingdom.
- (Right side)
Check box - I am interested in hearing more about volunteering with Wikimedia UK Check Box - I am interested in becoming a member of Wikimedia UK
Fields for completion (Please use capitals):
- Name
- Address
- Address
- Postcode
- Username (If you already edit Wikipedia or Wicipedia - you do not have to include this)
Check boxes:
I would particularly like to know more about (tick as many as you wish):
- Attending a meetup or event
- Learning to edit
- Learning how to donate images
- Making local Galleries, Arts, Museums and Libraries material available
- Working with educational institutions
Fifth page
- (Pull out postcard - address side)
- (Top right under stamp outline - subtext) - 'You don't have to use a stamp, but doing so will save us money.'
(Centre)
C/o Office Manager
FREEPOST WIKIPEDIA
- (Right side)
volunteer/member pull quotes
Sixth page
- (Left side)
- Wikipedia - the free encyclopaedia
- Wicipedia - the free welsh language encyclopaedia
- Wiktionary - a wiki-based open content dictionary
- Wikiquotes - a free online compendium of sourced quotations
- Wikinews - the free news source you can write
- Wikisources - the free library that anyone can improve.
- Wikibooks - the open-content textbooks collection that anyone can edit.
- Wikiversity - a community effort to learn and facilitate others' learning
- Wikivoyage - the free worldwide travel guide that anyone can edit.
- Wikispecies - The free species directory that anyone can edit
- Wikimedia Commons - a database of freely usable media files to which anyone can contribute
- Wikidata -the free knowledge base that anyone can edit
- (Right side)
Wikimedia UK 4th Floor, Development House, 56-64 Leonard Street London England EC2A 4LT
- Website: http://uk.wikimedia.org/wiki/Main_Page/cy
- Email: info@wikimedia.org.uk
- Facebook: www.facebook.com/WikimediaUK/
- Twitter: @wikimediauk
We welcome visitors! If you would like to visit the London office and find our more just get in touch!