Cynhadledd WiciAddysg, 2013
Wikimedia UK education projects |
Annual Conference — Campus Ambassadors – Student Societies — Schools — Committee — VLE |
|
Galwad am olygathon a hacathon - ar agor tan Ddydd Gwener 6 Medi 2013 (canol dydd)
|
Cynhadledd WiciAddysg, 2013 yw'r ail gynhadledd a drefnwyd gan Wikimedia UK, ac a fydd yn canolbwyntio ar brosiectau addysgol
Mae'r dudalen hon yn ymwneud a chynllunio'r gynhadledd gyda brws bras.
Bydd y dudalen, felly'n cael ei datblygu i syniadau mwy concrit, a threfniadau mwy manwl wrth i ni nesau at y dyddiad.
Mae can croeso i chi gysylltu â Toni Sant (Trefnydd Addysg Wikimedia UK) neu Robin Owain, Rheolwr Cymru os oes gennych gwestiynau neu farn bersonol neu gadewch nodyn the talk/yma yn y man trafod.
Ynghylch Cynhadledd WiciAddysg, 2013
Mewn papur gwyn diweddar gan TurnItIn, y gwasanaeth atal llên-ladrad ar-lein (online plagiarism) a gaiff ei ddefnyddio ar hyd a lled addysg uwch yng ngwledydd Prydain, ceir y farn ganlynol: "Wikipedia has an outsized presence as a content source for student writing".[1] Sail y papur gwyn hwn ydy dadansoddiad o 112 miliwn o destunau a gopiwyd allan o 28 miliwn o bapurau myfyrwyr a gyflwynwyd i TurnItIn rhwng Gorffennaf 2011 a Mehefin 2012. Roedd 11% o'r testunau a gopiwyd yn dod o Wikipedia. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn datgan fod gan Wicipedia rinweddau addysgol cryf o ran ei werth addysgol. Argymhella TurnItIn "addysgu'r myfyrwyr mai gwerth pennaf Wicipedia ydy darparu crynodeb wedi'i guradu (a curated summary) ar y pwnc dan sylw, ac y dylent ddilyn y cyfeiriadau a'r ffynonellau ar waelod y dudalen er mwyn gwiro drostynt hwy eu hunain geirwiredd y darn a dinoethi'r ffynhonnell wreiddiol ar yr un pryd.ref>ibid. tud.11</ref>
Y Gynulleidfa
Bydd rhwng 80 - 120 yno o wahanol feysydd:
- Addysg Uwch
- Ysgolion Uwchradd
- Addysg Gydol Oes
Themaâu'r Gynhadledd
Bydd y gynhadledd yn ymdrin â'r themâu canlynol, (ymhlith eraill):
- Rhaglen Addysg Wikipedia
- Adnoddau Cynnwys Agored
- Llythrennedd-digidol; wici-lythrennedd a meddwl y tu allan i'r bocs
- Asesiadau ac achrediadau
- Cymunedau addysg agored megis Wikiversity
Mae Wikimedia UK wedi galw am bapurau, cyflwyniadau, dadleuon a/neu bosteri, yn enwedig rhai sy'n ymdrin a thema papur gwyn TurnItIn.
Galwyd hefyd am baneli trafod o dri neu bedwar a chafwyd nifer eitha swmpus ohonynt.
Taflen amser
ar y gweill
Yn dilyn y Gynhadledd bydd gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal megis taith gerdded a golygathon nos Sadwrn a bore Sul.
Cysylltiadau lleol
Eisioes mae gennym nifer helaeth o gysylltiadau sy'n ymwneud â'n prosiectau a chynnwys agored, gan gynnwys: (ychwanegwch yma, os gwelwch yn dda)
- Colegau Cymru / CollegesWales sy'n cynrychioli colegau Addysg Pellach Cymru
- CBAC Bwrdd Arholi Cymru
- Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Digidol; Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Canolfan Hanes a'r Celfyddydau, Trefiwt. Craidd ei gwaith yw democratiaeth ddiwylliannol a hanesion pobl.
On a practical note could there be a joint working group for this to avoid duplication and contradiction and encourage more people to get involve? Jon Davies (WMUK) (talk) 15:05, 15 July 2013 (UTC)
References
- ↑ TurnItIn White Paper. 'The Sources in Student Writing - Higher Education, tud.10