Membership/cy

From Wikimedia UK
< Membership
Revision as of 08:21, 28 April 2013 by Llywelyn2000 (talk | contribs) (cyfieithu / translate)
(diff) ← Older revision | Latest revision (diff) | Newer revision → (diff)
Jump to navigation Jump to search
Join Wikimedia UK
Organisational MembershipOnline application formGet involvedApplication processMembership RulesNewsletterHelp


Mae ein aelodau'n rahn hanfodol o'n digwyddiadau a chroesawn bawb sy'n cytuno a'n hamcanion i ymuno â ni.

Elwa

  • Rydych yn cefnogi ein hamcanion a'n gwaith
  • Gallwch bleidleisio yn ein Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, ble etholir ein Bwrdd a ble derbynir cynigion ar reolaeth weinyddol
  • Gallwch wneud cais am nawdd ariannol (microgrants)
  • Gallwch ymuno a'n rhestr drafod ebost ac ymwneud â chynllunio digwyddiadau newydd a gwella ein polisiau

Cymwyster

Mae aelodaeth yn agored i bawb; nid oes raid i chi breswylio yng ngwledydd Prydain na bod dros rhyw oedran arbennig, na chwaith fod yn olygydd un o brosiectau Sefydliad Wikimedia. Y cyfan a ofynwn yw fod ein haelodau'n cefnogi ein hamcanion ac i beidio dod ag anfri arnom.

Mae'n hanfodol fod ein haelodau'n datgelu i'r Bwrdd eu henwau llawn a'u cyfeiriad, ond nid oes raid iddynt ddatgelu eu henw defnyddiwr ar unrhyw chwaer brosiect. Cedwir y data personol hwn ar Gofrestr Aelodaeth y siapter, ac fe'i dangosir i unrhyw berson a'i mynn, os oes ganddo reswm digonol dros wneud hynny. Os nad yw hyn yn dderbyniol gennych gallwch ystyried cyfrannu'n ariannol i'r siapter yn hytrach nag ymuno, a thrwy gyfrannu eich amser.

Tâl aelodaeth

Y tâl presennol yw £5 y flwyddyn. Ystyriwn y tâl hwn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gallwch gyfrannu arlein. Dyma'r dull a awgrymwn, ar y ffurflen syml a ddarperir ond ceir dulliau eraill ac os dilynwch y ddolen uchod cewch wybodaeth amdanynt ac sut rydym yn delio a'ch cais am aelodaeth ac aelodaeth corfforaethol. Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach, cysylltwch â'n Trysorydd (Saesneg).