- Rhai Cerrig Milltir y Wicipedia Cymraeg drwy Lygad Rheolwr Cymru
- Blog gan Robin Owain, Rheolwr Cymru 17 Tachwedd
Yn Rhagfyr 1996, rhoddais dros 150 o fy ngherddi ar y we am ddim i bawb mewn casglai o'r enw Rebel ar y We a newidiwyd yn 2005 i Rededeg ar Wydr. Ychydig yn ddiweddarach cychwynais gylchgrawn digidol o'r enw Byd y Beirdd gan alw ar feirdd roi eu gwaith hwythau ar y we am ddim i bawb. Chredwch chi ddim y cicio a'r gweiddi a fu! Ac er i bob un o'r beirdd lofnodi eu caniatad i gyhoeddi'r cerddi, gwaeddodd un perchennog gwasg yng Ngogledd Cymru: "Mae cannoedd o bunnoedd yn y fantol!" (Gweler Golwg, 16 Mawrth 2000). Roedd yn gweld ei golled ariannol ei hun yn bwysicach na hawl llenorion Cymru i gyhoeddi eu gwaith eu hunan, yn bwysicach na'r Gymraeg.
Cyhoeddwyd adolygiad o Rebel ar y We yng Ngwanwyn 1997 yn Llais Llyfrau (Cyngor Llyfrau Cymru) a nodwyd mai dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i'w rhoi ar y we. Mi sgwennais yn Golwg (6 Ebrill 2000): Pe bai pob cyhoeddwr llyfrau heddiw yn rhoi pob llyfr a gyhoeddwyd ganddynt AM DDIM ar y we byddai hynny'n ymestyn einioes y Gymraeg am genhedlaeth neu ddwy. Mae'r rhyngrwyd yma i aros... ac mae'n dyngedfennol ein bod yn yn ail-ystyried ein syniadau confensiynol am gyhoeddi yn ei sgîl. Mae'r chwyldro ar y teledu - a'r monitor, ac mae'n rhaid i'r Gymraeg fod yno!
Erbyn heddiw, gallem alw Rebel ar y We yn e-lyfr, ond doedd y gair hwnnw ddim ar gael am ugain mlynedd arall! A hithau'n 2016, a'r gyfrol yn 20 oed, chlywais i ddim am unrhyw ddathliad o fath yn y byd! Cyhoeddwyd dros fil o e-lyfrau ers hynny, ond ychydig iawn sydd am ddim. A mi eith y pen-blwydd heibio, mi wranta, heb na balŵn, na channwyll na cherdyn pen-blwydd.
Pan fewngofnodais am y tro cyntaf ar y Wicipedia Cymraeg (cy-wici) ar 7 Mehefin 2008, roedd na tua 16,000 o erthyglau ac mae'r nifer hwnnw wedi codi, bellach i dros 81,400. Yng Ngorffennaf 2003 y teipiwyd y gair cyntaf ar cy-wici ar yr erthygl ar y Gymraeg; yn fuan ar ôl hynny y daeth: Llywelyn ap Gruffudd, Rhestr Cymry, Gwiwer, David R. Edwards ac Owain Gwynedd. Y mis hwnnw roedd yr en-wici dros ddwy oed.
Ch- dde: Robin Owain, Marc Haynes ac Aled Powell.
Yng Ngorffennaf 2008 dechreuais drafodaeth am nawdd a datblygu cy-wici drwy bartneru gyda chyrff erall. Roedd llai na 20,000 o erthyglau ar y pryd a datblygodd y drafodaeth yn weithgaredd unigolion y tu allan i WP ee cysylltu gyda Bwrdd yr Iaith, Prifysgol Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol. Datblygodd hyn yn gais am nawdd a chafwyd £65,000 gan Lywodraeth Cymru a lansiwyd y prosiect 'Llwybrau Byw'. Fe'm penodwyd yn Rheolwr Cymdeithas Wici Cymru, gyda Wikimedia UK yn gwneud y gwaith papur o ddydd i ddydd. Ar ddiwedd y flwyddyn parhaodd y cytundeb a dw i'n dal yn fy swydd.
Ceir llawer o fanylion ar gerrig milltir eraill ar y dudalen Wicipedia Cymraeg ar cy-wici. Ond o'm rhan i, mae'r canlynol, wedi'u serio yn fy mêr:
- 9 Ebrill 2004 y milfed erthygl
- 1 Gorffennaf 2008' Cyflwynais y syniad o ymgyrch am nawdd gan y Brifysgol / Bwrdd yr Iaith i gyflogi Wicipedwyr llawn amser.
- 20 Tachwedd 2008 yr 20,000fed erthygl (Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984)
- 23 Ebrill 2012 Lansiais y syniad o ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg ymhellach, ac ar raddfa fawr
- 30 Mehefin 2012 Rhys Wynne a minnau'n trefnu'r Golygathon Cymraeg cyntaf yn y Llyfrgell Ganolog, Caerdydd.
- 9 Gorffennaf 2012 cafwyd cyfarfod rhwng y Gweinidog dros Dechnoleg Gwybodaeth Llywodraeth Cymru,[1] sef Leyton Andrews, a Robin Owain, gyda'r ddau yn cytuno ar saith pwynt a godwyd, gan gynnwys rhyddhau cynnwys cyrff cyhoeddus ar drwydded agored
- 12 Medi 2012 cyhoeddais Gynllun Datblygu Wicipedia, gyda saith maes i'w datblygu, gan gynnwys marchnata'r Wicipedia, a rhyddhau ffeiliau Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol ayb
- 21 Rhagfyr 2012 y bot cyntaf (Bot-Twm Crys) ar cy-wici yn creu dros fil o ailgyfeiriadau o enwau gwyddonol i enwau Cymraeg gwyfynod a gloynnod byw
- Rhagfyr 2012 Trefnais dau gyfarfod: y cyntaf gyda golygyddion y Gwyddoniadur Cymreig a Gwasg y Brifysgol ac yn ail gydag Andrew Green, Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol gan wneud cais i'r Llyfrgell rhyddhau lluniau a gwybodaeth a chyflogi Wicipediwr llawn amser. Y cyfarfod cyntaf yn negayddol, ond yr ail yn llwyddiannus!
- Medi 2013 agorais gyfri @WiciCymru ar Trydar
- Rhagfyr 2013 cyd-drefnais 'WiciAddysg' ym Mae Caerdd a braf oedd clywed Gareth Morlais ar ran Llywodraeth Cymru yn siarad mor flaengar am gynnwys agored ac am cy-wici
- Ionawr 2014 penodwyd Aled Powell yn Drefnydd Hyfforddi Wici Cymru
- Ionawr 2014 penodwyd Marc Haynes yn Wicipediwr Preswyl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Ionawr 2015 penododd Jason Evans yn WP y Llyfrgell Genedlaethol - ac mae dal yno'n llawn amser
- Haf 2016 Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Comin
- Hydref 2016 9,500 o erthyglau ar adar byw, gan godi nifer yr erthyglau i 80,000.
- Hydref 2016 13000 o luniau wedu huwchlwytho i Comin gan y LGC a 125 miliwn o bobl wedi'u gweld.
Mi fyddai'n cymharu Wicipedia'n aml i nyth morgrug Amasonaidd, a braf ei weld yn tyfu. Brafiach yw gweld newid ym meddyliau pobl, lle ceir meddwl rhydd annibynol heddiw, a'r syniad o rannu'n bwysicach na'r hyn a fu yng Nghymru cyhyd - cyhoeddi er mwyn arian. Os mai dymuniad y person yw gwneud arian, yna awgrymaf eu bod yn newid eu swydd a bod yn fancar neu'n llawfeddyg. Ond os mai'r rheswm dros olygu ydyw fod y llenor yn dymuno rhannu ei waith, neu drosglwyddo gwybodaeth neu argyhoeddi eraill, yna wici ydy'r lle, neu wefan agored arall, sy'n rhydd ac am ddim. Dwn i ddim pwy yw llawer o'r morgrug hyn, gan ein bod yn aml yn defnyddio ffug enw. Mae llawer wedi gwneud argraff arna i, yn bennaf, 'Anatiomaros', Eleri James a Les Barker. Petha bach ydy morgrug ond mae eu gwaith diflino wedi creu'r storfa gwybodaeth Gymraeg mwyaf a fu erioed yn y cosmos, a'r fynedfa iddi am ddim! Gwnewch y pethau bychan - ar ei orau!
Rydym ar drothwy gweld datblygiadau'r 6 mlynedd diwethaf yn dwyn ffrwyth ar ei ganfed; bu'n waith caled, diddiolch, nid-am-arian, a hynny ar adeg pan oedd llawer o'n pobl yn anwybodus am bethau digidol, yn draddodiadol gul hefyd. Anghofia i byth sgwrsio gyda Wyn Roberts (Llansannan ers talwm) am lyfrau ar Radio Cymru, minnau'n sôn am Rebel ar y We, a'i fod mewn gwirionedd yr e-lyfr cyntaf yn Gymraeg. Wedi deg munud o sgwrsio, dyma rhyw hen wag o Ben Llŷn yn ffonio ac yn dweud wrtha i: "Peidiwch a siarad drwy'ch het, ddyn, wrth gwrs na fedrwch chi ddim tynnu llyfr i lawr gwifren ffôn!" 2010 oedd hynny, nid 1910!
Mi ddyfynaf fy nhad i orffen, dyfyniad allan o lyfr Aled Eurig, Tân a Daniwyd (Argr. W. Walters a'i Fab, 1976):
- Hyn yw angen mawr Cymru heddiw: gweithwyr caled, gweithwyr cyson, gweithwyr adeiladol, gweithwyr creadigol, gweithwyr positif - gydag argyhoeddiad dwfn o werth yr unigolyn, a chariad tuag at dyd-ddyn yn ogystal â thuag at Gymru.
Ymlaen!
- WMUK a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn cyflogi Wicipediwr Preswyl drwy gyfrwng y Gaeleg
- Blog gan John Lubbock a Robin Owain 11 Hydref 2016
Mae Wikimedia UK a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban newydd hysbysebu am Wicipediwr Preswyl llawn amser i hyrwyddo Wicipedia Gaeleg (neu'r Uicipeid).
Yn dilyn cais llwyddianus i'r Bòrd na Gàidhlig, mae Adran Aeleg Llywodraeth yr Alban yn bwriadu pendoi Wicipediwr (benyw neu wryw) a fydd yn gweithio ledled yr Alban yn hyrwyddo Gaeleg drwy hyfforddi pobl i greu neu wella erthyglau ar Uicipeid, y Wicipedia Aeleg. Disgwylir i'r Wicipediwr llwyddiannus hyfforddi pobl yn Ynysoedd Allanol Heledd, yr Ucheldir a chanol yr Alban. Gall weithio o unrhyw le o fewn yr Alban, neu o swyddfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, pe dymunent.
Maer hyn yn dilyn nifer o swyddi tebyg yng Nghymru ac yng ngweddill gwledydd Prydain gan gynnwys Marc a fu'n gweithio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Jason sydd ar ei ail flwyddyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Penodwyd y Wicipediwr Preswyl cyntaf yn yr Alban yn 2013 i weithio o fewn y Llyfrgell Genedlaethol a chrewyd cymuned dda o olygyddion yno yng Nghaeredin. Dilynwyd hyn gan swydd ym Mhrifysgol Caeredin, ac mae Ewan yn parhau yn y swydd honno. Roedd hyn, fel yng Nghymru, yn normaleiddio'r gwaith o roi cynnwys a gwybodaeth ar drwyddedi agored mewn sefydliadau cenedlaethol. Mae Wicipedia ar gael mewn tua 290 o ieithoedd.
- Dim erthygl? Dim problem!
- Creu Daleni Data ar y Wicipedia Cymraeg
- Blog gan Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r Wicipedia Gymraeg eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl gyda dros 70,000 o erthyglau. Yn fras dyna un erthygl i bob wyth Siaradwr Cymraeg. Ond yn awr mae myfyriwr yn yr Almaen wedi datblygu teclyn newydd a all lenwi'r bylchau ar Wicipedia drwy fenthyg data o brosiect arall gan Wicimedia, sef Wicidata.
Nod y nodwedd newydd yw cynyddu mynediad agored ac am ddim i wybodaeth ar Wicipedia. Mae’r 'Ddalen Data' (Article Placeholder yn Saesneg) yn casglu data, delweddau a chyfeiriadau o Wicidata a'u harddangos yn arddull arferol Wicipedia, gan ei gwneud yn hawdd eu darllen.
Ar hyn o bryd mae'r Ddalen Data yn cael ei threialu ar nifer fechan o Wicipedias, ac ar ôl ymgynghori â'r gymuned Wicipedia Cymraeg, cytunwyd y byddem yn profi'r teclyn newydd yma ar cy-wici.
Y fantais fwyaf amlwg o’r ddalen data yw'r mynediad hawdd at wybodaeth sydd heb ei chynnwys ar Wicipedia eto, a gyda 20 miliwn o eitemau ar Wicidata, nid yw'r wybodaeth yn brin! Dylai hyn yn ei dro annog golygyddion i greu erthyglau newydd gan ddefnyddio'r wybodaeth a gyflwynir yn y Ddalen Data.
Ond, efallai mai'r agwedd fwyaf gyffrous o ddefnyddio Wicidata i gynhyrchu cynnwys Wicipedia, yw bod Wicidata yn siarad cannoedd o ieithoedd (dros 288), gan gynnwys y Gymraeg! Golyga hyn bod llawer o’r tudalennau mae'r meddalwedd yn eu creu ar y Wicipedia Cymraeg yn ymddangos yn uniaith Gymraeg.
Os nad yw'r eitem ar Wicidata wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg eto, bydd y nodwedd yn ymddangos yn Saesneg, fodd bynnag, mae'n awr yn haws nag erioed i gyrraedd yr eitem Wikidata, trwy’r Ddalen Data, ac ychwanegu cyfieithiad Cymraeg (gweler y llun isod). Ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau gyda siaradwyr Cymraeg er mwyn cyfieithu rhagor o eitemau Wicidata i'r Gymraeg.
Trwy ymgorffori’r nodwedd hon i mewn i'r Wicipedia Cymraeg mae gobaith y bydd gan siaradwyr Cymraeg brofiad cyfoethocach o'r wefan ac y bydd yn annog mwy o olygyddion i greu cynnwys ac ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i Wicidata, sydd yn atgyfnerthu lle'r iaith Gymraeg yn y deyrnas ddigidol.
- Defnyddio Lluniau Comin yng Ngeiriadur Llên Natur
- Blog gan Robin Owain; Awst 2016
Yn ddiweddar cafwyd partneriaeth ffrwythlon iawn rhwng tri o brosiectau Wicimedia: [2], Comin Wicimedia a'r Wicipedia Cymraeg a Llên Natur (adran ddigidol Cymdeithas Edward Llwyd) a'u gwefeistr, sef Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.
Y sialens a osodais i Duncan Brown, congl-faen Llên Natur, oedd troi eu geiriaduron rhywogaethau (testun yn unig) yn Fywiadur lliwgar, llawn lluniau.
Wedi tri mis o godio a cheisiau impio gwahanol dechnolegau llwyddwyd i gael dros 8,000 o rai o ffotograffau gorau'r byd. Drwy ddyfalbarhad ac arweiniad Duncan Brown a'i dîm o naturiaethwyr gwelwyd casgliad fwya'r byd o ffotograffau (Comin) yn ymddangos o fewn y Bywiadur. Gwnaed hyn yn bosib drwy Wicidata, a'i lu o ddynodwyr unigryw: un o'r rhain yw'r 'ffotograff gorau' o'r rhywogaeth. Yn hytrach na mynd ati gyda'r llaw a'r llygad, roedd Wicidata'n ei gwneud hi'n bosibl i Dewi o'r Uned Technolegau Iaith, ar ran Llên Natur, dynnu'r llif delweddau i fewn i'w gwefan. Gan fod lluniau gwell yn cael eu huwchlwytho'n ddyddiol ar Comin, roedd hyn hefyd yn caniatau otomeiddio'n ddyddiol y broses o uwchlwytho lluniau newydd, gwahanol ayb.
Un o ffotograffwyr byd natur gorau Cymru yw'r cyn-brifathro Alun Williams ac mae wedi uwchlwytho cannoedd o luniau i wefan Llên Natur dros y blynyddoedd. Yn dilyn lansio'r Bywiadur yn Haf 2016 roedd rhai o luniau Alun wedi derbyn gwobrau 'Ffotograffau o Safon' gan gymuned Comin Wicimedia. Mae ei luniau bellach i'w gweld o fewn erthyglau Wicipedia (mewn dros 280 o ieithoedd) yn ogystal â'r Bywiadur. Dyma rai ohonynt:
Fel y mae Wicidata'n allweddol i dynnu'r lluniau o Comin i wefan Llên Natur, felly hefyd gyda'r Wicipedia Cymraeg. Man cychwyn y gwaith oedd uwchlwytho enwau Cymraeg safonol i Wicidata - gan gynnwys y 10,000 o enwau adar. Drwy ddefnyddio côd syml, mae'r Nodyn (neu 'demplad') Rhestr Wicidata yn rhwyddhau'r broses o greu rhestrau otomatig o fewn Wicipedia Cymraeg hefyd. Mae'r erthygl Rhestr o ferched yn y Bywgraffiadur er enghraifft yn crynhoi'n daclus ac yn ddyddiol yr erthyglau ar y merched hynny - ychydig dros gant ohonyn nhw.
Eisioes mae gennym dros gant o'r tablau hyn, a gan fod y wybodaeth yn cael ei diweddaru'n otomatig, mae hefyd yn gyfoes ac yn fwy cywir na'r hen ddull llaw a llygad.
Diweddaf gyda rhybudd. Mae dod a gwybodaeth fel hyn yn otomatig o Wicidata'n beth da, cyn belled a'n bod fel cymuned o olygyddion Cymreig hefyd yn medru rheoli'r llif honno! Gwyddom am y frwydr barhaus ar y Wicipedia Saesneg i nodi mai Cymro neu Gymraes yw hwn a'r llall; mae nhw'n dal i ddweud mai Sais yw Tom Pryce, a Jac yr Undeb sydd wrth ei ochr heddiw: Awst 2016. Mae'n wych medru troi tapiau'r bath arno; mae yr un mor hanfodol fod y dŵr sy'n llifo drwyddy'r tapiau mor lân a phosibl. A chadwn yr hawl i ddiffodd y tapiau hyd yn oed. "Unigryw, unigryw!" chwedl Carl Morris.
- Gwybodaeth agored i bawb
Dywedodd Hugh Gusterson, Llywydd presennol Cymdeithas Ethnoleg America, ‘I get paid nothing directly for the most difficult, time-consuming writing I do: peer-reviewed academic articles. In fact a journal that owned the copyright to one of my articles made me pay $400 for permission to reprint my own writing in a book of my essays.’
Yn wir, dyna oedd y drefn gyffredinol drwy'r byd, a byddai'r gwaith adolygu'n cael ei wneud fel rhan o waith a chyflog arferol yr academydd. Dim ceiniog yn fwy, a hyn oedd y norm. A doedd y cyhoeddiadau academaidd ddim chwaith yn gwneud fawr o elw gan na chodid lawer am fynediad i'r cynnwys, ond yn y blynyddoedd hyn mae pethau wedi newid gan fod cwmniau gwneud elw wedi cymryd drosodd y gwaith o'u cyhoeddi, cwmniau fel Elsevier, Taylor & Francis, a Wiley-Blackwell. Mae'r cwmniau hyn yn gwneud elw mawr gan eu bod yn codi crocbris ar fyfyrwyr ac academyddion eraill am fynediad i'r gwaith. Derbyniodd Erik Engstrom o gwmni Elsevier, er enghraifft, £16.18m y llynedd - ef oedd y prif weithredwr a gafodd y cyflog uchaf o holl gwmniau'r FTSE100 y llynedd.
[darllenwch ragor o'r erthygl wreiddiol yma...]
- Deffro'r Ddraig
- Blog gan John Lubbock a Robin Owain
Ar y Wikipedia Saesneg, mae'r prosiect WikiProject Wales newydd gwbwlhau prosiect chwyldroadol i godi egin erthyglau'n erthyglau o gig a gwaed! Ar en-wici (y wici Saesneg) a nifer o ieithoedd eraill, ceir system safoni erthyglau gyda 'Statws Erthygl Dda' yn cael ei rhoi i'r erthyglau gorau. Bwriad y gystadleuaeth oedd cymell golygyddion i ehangu a gwella erthyglau byr (neu 'egin erthyglau'). Law yn llaw, fe gynhaliwyd cystadleuaeth ar y cy-wici (ie - Wicipedia Cymraeg!) a bu saith o awduron wrthi'n gwella a chreu erthyglau o'r newydd.
Wrth gwrs, mae na lawer mwy yn siarad Saesneg nag sydd yn siarad Cymraeg, ac roedd y nifer o erthyglau a gafodd eu gwella ar y Wikipedia Saesneg lawer iawn mwy niferus - 1065 o erthyglau am Gymru! Dyma'r ddolen at yr erthyglau hynny. Rhannwyd y brif wobr rhwng 'Cwmhiraeth' a 'Sturmvogel 66' a daeth Deb - sydd hefyd yn golygu ar y Wicipedia Cymraeg - yn seithfed! Paraodd y gystadleuaeth drwy fis Ebrill 2016.
Trefnydd Deffro'r Ddraig oedd Dr. Blofeld, ac roedd na goblyn o waith trefnu! Rhoddwyd £250 ar gyfer y gwobrau gan Wicimedia UK. Dyma rai o'r erthyglau newydd a grewyd ar en-wici: Santes Callwen, Lleision ap Thomas, Hen Farchnad Llanidloes, Amaethyddiaeth yng Nghymru, Castell Picton, Sarah Jacob ac erthygl ar y crempog Cymreig! Ar cy-wici, cafwyd erthyglau am: Ffordd Farrar a Kirsty Wade gan Blogdroed, Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Dafydd Parri gan DafyddT, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd a Ffwl-y-mwn gan HamII, Rose Davies a John Cyrlas Williams gan John Jones a Senedd-dy Owain Glyn Dŵr, Machynlleth gan Llywelyn2000.
Cafwyd golygathon hefyd yn Aberystwyth, yn sbarc i'r cyfan, a deffrwyd y ddraig drwy gweddill y mis! Sicrhewch nad eith hi'n ôl i gysgu, drwy olygu erthyglau Cymraeg neu am Gymru!
- BBC Cymru'n agor ei drysau!
- Blog gan Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru
- 29 Chwefror 2016
Dewi Sant ar ffenestr o'r 1930au.
Pan gyhoeddais i 150 o fy ngherddi yn rhydd, yn agored ac am ddim i bawb, ar y we yn Rhagfyr 1996, ychydig a gredais i y byddai'n cymryd 20 mlynedd cyn bod sefydliadau fel y BBC yn gwneud yr un peth. Mae rhai sefydliadau, fel y Coleg Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol, wedi bod yn hynod o flaenllaw, mae eraill fel y BBC yn troedio'n ofalus ac ambell un fel Cadw'n eiddugeddus iawn o'u ffotograffau a'u gweithiau eraill, ac yn mynnu eu cadw ar drwydded caeedig Crown Copyright!
Mewn ateb i Wil Tomos, gohebydd Y Cymro ar y pryd (gweler Y Cymro, 12 Chwefror 1997) dywedais: "Mae na lawer o bobol wedi fy annog i fynd ati i gyhoeddi llyfr-hen-ffasiwn ar bapur, ond roeddwn yn awyddus iawn i fynd ati i'w gyhoeddi ar y dechnoleg fwyaf modern posib gan roi copi i bob person yn y byd am ddim!" Yr un wythnos cyhoeddodd Golwg: "Ac wrth lansio Rebel ar y We fe rybuddiodd Robin bod yn rhaid i gyhoeddwyr Cymraeg symud ymlaen gyda'r oes neu wynebu'r ffaith y bydd yr iaith yn cael ei gadael ar silff lychlyd rhyw hen lyfrgell ac yn marw." Mae'r wefan yn dal yno, yn y dyfnderoedd, ers Rhagfyr 1996.
Ar y naill law, 'da ni wedi symud ymlaen ers hynny: mae na dros fil o e-lyfrau wedi'u chyhoeddi ers y cyntaf hwnnw yn Rhagfyr 1996, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn prysu uwchlwytho 120,000 o'u lluniau i Gomin Wicimedia - ar drwydded agored. Ar y llaw arall, yr unig ffordd y cewch afael ar un o dros ddwy filiwn o luniau Cadw yw drwy dalu £40 amdano! Mae'r syniad o 'berchnogaeth' yn dal i fodoli, nid yn unig gan Cadw, ond gan ein llenorion, sy'n credu y gwnant eu ffortiwn rhyw ddydd gyda'u henglyn neu gyfrol o storiau byrion! Dydy'r syniad o rannu, o gyfranu am ddim, ac o drosglwyddo gwybodaeth a llenyddiaeth a llun, ddim cweit wedi eu cyrraedd. Ond mae'r newid yn dod.
Yng ngwanwyn 2015 rhyddhaodd Cymru Fyw, gwefan y BBC, swp o erthyglau ar nifer o grwpiau cerddorol, bandiau ac unigolion i'w rhoi ar Wicipedia; roedd hyn yn gam anferthol iddynt, ac ni stopiodd y byd a throi ar ei hechel! Heddiw, mae Cymru Fyw yn rhyddhau gêm bychan i ddathlu Gŵyl Ddewi, gêm sy'n defnyddio cyfesurynnau / lleoliad seintiau a gwybodaeth o Wicipedia (Cymraeg a Saesneg). Datblygiad diddorol ac mae'n rhaid curo eu cefnau am hyn! Gweler: Beth fyddai'ch enw sanctaidd? Edrychwn ymlaen yn arw i weld BBC Cymru yn datgloi ychwaneg o ddrysau ac yn rhyddhau ychwaneg o'u cynnwys. Trethi pobl Cymru a dalodd am holl stwff y BBC yn y lle cyntaf, a gwell eu rhannu'n agored i bawb, na'u gwarchod mewn cabined dur rhyw archifdy oer. Ymlaen rwan!
- Cannoedd o erthyglau newydd wedi'u creu, miloedd o luniau wedi'u rhannu a milynau o hits ac ymweliadau ar Wicipedia!
- Blog gan Jason Evans, Wicipediwr llawn-amser yn y Llyfrgell Genedlaethol
Aeth blwyddyn heibio ers i mi ddechrau fy siwrne drwy fyd Wicipedia. Roedd fy ngorchwyl gwaith yn ddigon syml - annog pobl i olygu, ysbrydoli'r gymuned a chreu ethos drws agored i weithiau o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda 18 miliwn o ymweliadau i dudalennau pob dydd, ymddengys mai Wicipedia yw'r prif Siop-Un-Alwad - am wybodaeth o bob math dan haul, ac mae llawer o sefydliadau ledled y byd wedi partneru gyda'r cawr o wyddoniadur hwn, er mwyn rhannu eu gwybodaeth a'u casgliadau wrth iddynt dyfu. Nod Llyfrgell y Genedl yw darparu gwybodaeth i bawb, ac mae Wicipedia yn un o'r llwybrau a ddefnyddir i wneud hynny.
Gwella Wicipedia
Do, bu gan Wicipedia ei beirniaid, ac mae ei pholisi o wahodd unrhyw berson i gyfrannu'n golygu fod gan rai erthyglau fân wendidau. I ateb y broblem hon, ac er mwyn i Gymru gael ei chynrychioli yn y modd gorau ar lwyfan Wicipedia, yn llygad y byd, trefnwyd nifer o ddigwyddiadau neu 'olygathonau' gyda'r bwriad o hyfforddi golygyddion newydd Wicipedia ar nifer o bynciau, o Gyfraith yn yr Oesoedd Canol i Gwpan Rygbi'r Byd. Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi troi eu llaw at olygu, mewn digwyddiadau a drefnais, ac mae'r offer newydd i symlhau'r broses o olygu, sef 'Y Golygydd Gweladwy' (Visual Editor), wedi ei gwneud yn haws.
Mae staff a gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur ar brosiectau sy'n berthnasol i Wicipedia; ceir 6.5 miliwn o lyfrau o fewn muriau'r Llyfrgell, ac felly, mae na fwy na digon o ddewis!
Dros y flwyddyn diwethaf daeth yn glir fod golygathonau'n ffyrdd da i ymrwymo a meithrin y gymuned. Mae hefyd yn ffordd dda o gyflwyno'r Llyfrgell i'r gymuned ehangach, ei chasgliadau a'i hetifeddiaeth mewn modd hyblyg a thawel.
[darllenwch ragor o'r erthygl yma...]