Template:Main Page cy

From Wikimedia UK
Revision as of 09:46, 17 June 2015 by Robin Owain (WMUK) (talk | contribs) (Include sub-archives)
Jump to navigation Jump to search

Wikimedia UK

Gwybodaeth rhydd ac agored i bawb!

Newyddion Diweddaraf

Ail Wicipedwraig preswyl i'r Alban
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Sara Thomas, Wicipedwraig newydd Amgueddfa Genedlaethol yr Alban
Sara Thomas

Dw i'n sgwennu'r blog yma tra'n eistedd yn Amgueddfa Celf Fodern yr Alban. Mae'r 'di-wifr' yn llydan o 'ngwmpas, diolch byth! Ac mae'r baned cystal bob tamed hefyd! Yr wythnos yma dw i wedi bod yn Amgueddfa Kelvingrove yn rhoi gwybod i Fforwm y Curiaduron be 'di fy rôl a ngwaith. Yr wythnos yma hefyd, dw i wedi bod yng Nghanolfan Adnoddau Amgueddfa Glasgow, yn cyfarfod chwaneg o bobl ac yn cael sbec i weld beth sydd ganddyn nhw'n newydd. Dim ond pythefnos yn fy ngwaith newydd, ac hyd yma, dw i wrth fy modd!

Dyma'r ail breswyliad yn yr Alban, wedi'r arbenigwraig wiciaidd Ally Crockford. Cytundeb bwlyddyn sydd gen i a hynny efo Galeriau ac Amgueddfeydd yr Alban. Bydd fy swydd yn llawn rhwydweithio (fel Prosiect Rhwydweithio Pat Hadley yn Swydd Efrog) a bwriadaf gydweithio efo llawer o gyrff a sefydliadau dros yr Alban benbaladr! Dwi'n andros o gyffrous am y peth!

Dw i 'di byw yn Glasgow ers diwedd y 1990au, a phleser pur ydy siarad am gynnwys a gwybodaeth agored efo sefydliadau dw i'n eu nabod mor dda dros y blynyddoedd, yn enwedig Amgueddfa Kelvingrove. Dw i'n edrych ymlaen hefyd i ymchwilio i gasgliadau Prosiect Kelvin Hall, sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, gan edrych sut y gallan nhw gyfoethogi'r gwyddoniadur. Mae na sawl sgwarnog arall, yn barod, wedi codi ei ben, a fydd efallai'n arwain at nifer o sefydliadau eraill, fel ein bod yn dechrau meithrin partneriaeth newydd rhwng y rhain a Wicimedia. Mi rof wybod i chi sut mae pethe'n mynd...


Prifysgol Abertawe a Merched yr Oesoedd Canol
Swansea University Prifysgol Abertawe Edit-a-thon Ionaw 2015 1.JPG


Ysgrifennwyd y blog hwn gan yr Athro Deborah Youngs a'r Dr Sparky Brooks, Prifysgol Abertawe

Ar yr 28ain Ionawr, 2015, bu'r ddau ohonom yn gyfrifol am Olygathon cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru, gyda'r nod o wella erthyglau ar ferched ar Wicipedia. Canolbwyntiwyd ar leihau'r gwahaniaeth enbyd rhwng y ddau ryw ar Wicipedia - o ran cynyddu'r wybodaeth ar ferched yn yr Oesoedd Canol a chynyddu'r nifer o ferched sy'n golygu.

Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r digwyddiad oedd sgwrs gyda Robin Owain ar sut i godi proffil merched o Gymru ar Wicipedia. Ar y pryd, roeddem yma ym Mhrifysgol Abertawe newydd gychwyn ymchwil bedair blynedd ar ferched yn yr Oesoedd Canol - a pha mor hawdd oedd hi'r adeg honno iddyn nhw gael cymorth yn eu hymwneud â byd y gyfraith yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon (1100-1750) wedi'i ariannu gan AHRC. Roedd Robin wedi gweld y ddwy ohonom mewn cyfweliad am y prosiect ar raglen Wales Today gan y BBC a chredodd y byddai ychwanegu gwybodaeth a ddaw o'r prosiect ar Wicipedia yn beth da, ac yn addas ar gyfer golygathon.

Rydym yn awyddus i wella'r cynnwys am ferched mewn hanes, a chanolbwyntiwyd yn y golygathon ar Gymru a'r Iwerddon, gan mai dyna brif faes ein prosiect. Roedd paratoi ar gyfer y diwrnod yn agoriad llygad! Buan y sylweddolem nad oedd erthyglau ar rai ferched nodedig. Roedd hi'n gryn sioc nad oedd erthyglau'n bodoli ar Jane Dee, gwraig John Dee, yr athronydd Elisabethaidd neu Sanana ferch Caradog, gwraig Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Roedd erthyglau enfawr ar eu gwŷr, wrth gwrs! Ar y llaw arall, roedd hi'n galonogol iawn gweld fod gan rai merched erthyglau swmpus, amdanynt a digonedd o gyfeiriadau solad ynddynt. Ceisiwyd gwella rhai erthyglau a oedd yn bodoli'n barod; roedd rhai wedi'u creu gan unigolion ac eraill mewn golygathonau tebyg e.e. Gormflaith ingen Murchada.

darllenwch ragor o'r erthygl yma...


Ynglŷn â Wikimedia UK

Wikimedia UK (neu Wicifryngau DU) ydy siapter Wikimedia ar gyfer gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Ein hamcan a'n gwaith yw cynorthwyo i gasglu, datblygu a lledaenu gwybodaeth trwyddedig a chynnwys addysgol, diwylliannol a hanesyddol, a hynny am ddim. Gwnawn hyn drwy ddod â chymunedau Wikimedia yr ynysoedd hyn at ei gilydd a thrwy adeiladu cysylltiadau gyda sefydliadau diwylliannol, prifysgolion, elusennau a chyrff eraill. Cynrychiolwn, hefyd, ein cymuned ar Sefydliad Wikimedia a'r mudiad yn fyd-eang.

Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth, trowch atom! Mae'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn gyfarfodydd cyhoeddus, neu ymunwch â ni am ddim ond £5!

Mae Wikimedia UK yn elusen gofrestredig. Cawn ein hariannu'n gyfangwbwl gan gyfraniadau gwirfoddol, yn bennaf drwy gynllun codi arian Wikimedia. Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn fudiad cwbwl ar wahân i Sefydliad Wikimedia, ac nad oes gennym reolaeth ar Wicipedia na'r un o chwiorydd neu brosiectau eraill y sefydliad hwn.

Cysylltu

Ymholiadau: infoatwikimedia.org.uk
Cyfryngau: pressatwikimedia.org.uk

Gallwch ein dilyn ar Twitter (@wikimediauk) neu ein "Hoffi" ar Facebook (WikimediaUK).

Gallwch hefyd ein dilyn ar restr drafod ebost ein cymuned (Saesneg).

Rhagor amdanom

Digwyddiadau i'w clustnodi

I weld holl ddigwyddiadau 2013 a 2014 cliciwch yma


Mehefin


Gorffennaf

Medi


Gweithredwch!

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Ymunwch â Wikimedia UK

mae aelodaeth yn agored i bawb ac yn costio £5 yn unig, y flwyddyn. Er bod nifer o'n haelodau'n olygyddion ar un neu nifer o chwaer brosiectau Wikimedia, does dim rhaid i chi fod! Mae ein haelodau'n chwarae rhan allweddol yn llunio dyfodol ein mudiad, drwy ethol Bwrdd rheoli a llunio strategaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Digwyddiadau

trefnwn nifer o ddigwyddiadau'n flynyddol, gan gynnwys cyfarfodydd megis y golygathon, wici gyfarfodydd, digwyddiadau "y tu ôl i'r llen", gweithdai a chynadleddau. Mae bron yr holl ddigwyddiadau hyn am ddim ac yn agored i'r byd a'r betws - dewch draw i'n cyfarfod ac i ymuno yn yr hwyl!

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Gwirfoddolwyr

Rydym wastad yn awyddus i gyfarfod darpar olygyddion a gwirfoddolwyr newydd. Os oes gennych chwip o syniad da, neu amser, neu sgiliau y carwch eu rhannu gyda Wicimedia UK, beth am ebostio un o aelodau'r Bwrdd? Ac i goroni'r cyfan, mae gennym arian i gynorthwyo a chefnogi prosiectau o fewn ein cymuned.

Icon from Commons: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Replacement_filing_cabinet.svg, license released into Public Domain

Archifdy



English



Lua error: Internal error: The interpreter exited with status 126.