- Jisc a Wikimedia UK yn codi pont rhwng academia a Wicipedia
27 Mehefin 2013 gan Stevie Benton
Mae Jisc a Wicimedia UK yn cydweithio ar brosiect sy'n dod a'r byd academaidd a Wicipedia yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr, addysgwyr a'r cyhoedd i gyfrannu tuag at wybodaeth rhydd, am ddim ac sy'n agored i bawb.
Mae'r elusen addysgol Jisc yn arbenigwr mewn technoleg ddigidol o fewn y byd addysg ac ymchwil, ac mae nhw'n cefnogi'r prosiect hwn er mwyn ehangu'r gynulleidfa a wneith fanteisio ar y gwaith blaenllaw ac avant-garde mae'n ei wneud. Mae'r gwaith yma'n cynnwys adnoddau agored addysgol, casgliadau o waith ymchwil arlein a chasgliadau eraill (e.e. papurau newydd wedi'u digideiddio). Mae Wikimedia UK yn elusen sy'n cefnogi Wicipedia Cymraeg a phob un o'r 280 iaith arall a'i chwaer brosiectau megis Comin, Wiciadur a Wicidestun. Mae'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn llyfrgelloedd, prifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau eraill er mwyn gwella'r wybodaeth sydd ar y prosiectau hyn ac er mwyn ehangu hygyrchedd y wybodaeth er lles pawb.
Mae'r prosiect hwn wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bryste. Bydd yn hyfforddi arbenigwyr yn eu gweithle ac yn cynnal ambell "olygathon" a fydd yn agored i'r cyhoedd. Penodwyd y Dr Martin Poulter yn Llysgennad i'r prosiect a bydd yn gyfrifol am bontio rhwng y ddwy gymuned: Jisc a Wikimedia UK. Penodwyd Dr Toni Sant ychydig yn ôl yn gyfrifol am yr adran addysg o fewn WMUK, adran sy'n canolbwyntio ar addysg drydyddol. Bydd gwaith Martin yn cynnwys clustnodi meysydd i'w datblygu yn ogystal a threfnu Cynhadledd EduWiki ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2013.
- [Darllenwch ragor yma
- Cynhadledd WMUK – Mediawiki ar gyfer OER a Learning Analytics
Cyhoeddwyd y testun gwreiddiol a welir isod gan Simon Knight, yma.
Ddydd Sadwrn, yn Lincoln, siaradais yng Nghynhadledd Wikimedia UK am y defnydd o Mediwiki ar gyfer Adnoddau Dysgu Agored (OER, neu Open educational resources) a Learning Analytics; mae'r sleidiau a gyflwynais i'w cael yma a bydd fideo o'r cyflwyniad ar lein cyn hir.
Mi wnes i gyfarfod grwp o bobl yn EduWiki 2012 (a rhennais ychydig o fy syniadau yma: EduWiki 2012), ceisiais adeiladu fy sgwrs ar y gwaith a wnes yng Nghaergrawnt ar y prosiect ORBIT – creu llwyfan o adnoddau dysgu agored ar gyfer dysgu rhyngweithiol yn enwedig y pynciau STEM a gweithiau eraill sy'n berthnasol i fy ngwaith PhD.
- Darllenwch ragor yma
- Wythnos y Gwirfoddolwr - llythyr gan ein Prif Weithredwr
- Sgwennwyd y cofnod blog canlynol gan Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK
Jon Davies, Prif Weithredwr WMUK
Mae 1-7 Mehefin yn Ddiwrnod y Gwirfoddolwr yn y DU. Pa well ffordd i'n hatgoffa fod prosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, yn cael eu sgwennu'n gyfangwbwl gan wirfoddolwyr?
Ers dros 12 mlynedd mae criw enfawr o bobl, o bob cefndir dan haul, ac o bob oedran, barn, a diddordebau, wedi dod at ei gilydd i greu y cefnfor eang yma o wybodaeth rhydd, gan ei rannu gydag eraill gan eu bont yn credu fod hynny'n beth da a gwerth chweil. Ac mae nhw'n parhau i wneud hynny.
Carem gynnig ein diolch di-ben-draw a chynhesaf i bawb sy'n gwirfoddoli i ryddhau a datblygu'r cefnfor hwn o wybodaeth, am eu hynni, a'u hamser i hyrwyddo'r cysyniad hwn o wybodaeth rhydd ac am ddim i bawb. Waeth pa ran o'r gwaith rydych yn ei wneud: cywiro camsillafu, golygu'r cynnwys, sgwennu a datblygu erthyglau, hyfforddi golygyddion newydd, gweithio gyda'r adran GLAM neu addysg neu hyd yn oed gwneud paned o de - can diolch i chi am wneud Wikimedia'n bosib. A dyma pam yr es ati i ofyn i fy nghydweithwyr sut roedden nhw'n teimlo ynglŷn â gweithio gyda gwirfoddolwyr Wikimedia...
- Darllenwch ragor yma