Newyddion Diweddaraf
|
- Wythnos y Gwirfoddolwr - llythyr gan ein Prif Weithredwr
- Sgwennwyd y cofnod blog canlynol gan Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK
Mae 1-7 Mehefin yn Ddiwrnod y Gwirfoddolwr yn y DU. Pa well ffordd i'n hatgoffa fod prosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, yn cael eu sgwennu'n gyfangwbwl gan wirfoddolwyr?
Ers dros 12 mlynedd mae criw enfawr o bobl, o bob cefndir dan haul, ac o bob oedran, barn, a diddordebau, wedi dod at ei gilydd i greu y cefnfor eang yma o wybodaeth rhydd, gan ei rannu gydag eraill gan eu bont yn credu fod hynny'n beth da a gwerth chweil. Ac mae nhw'n parhau i wneud hynny.
Carem gynnig ein diolch di-ben-draw a chynhesaf i bawb sy'n gwirfoddoli i ryddhau a datblygu'r cefnfor hwn o wybodaeth, am eu hynni, a'u hamser i hyrwyddo'r cysyniad hwn o wybodaeth rhydd ac am ddim i bawb. Waeth pa ran o'r gwaith rydych yn ei wneud: cywiro camsillafu, golygu'r cynnwys, sgwennu a datblygu erthyglau, hyfforddi golygyddion newydd, gweithio gyda'r adran GLAM neu addysg neu hyd yn oed gwneud paned o de - can diolch i chi am wneud Wikimedia'n bosib. A dyma pam yr es ati i ofyn i fy nghydweithwyr sut roedden nhw'n teimlo ynglŷn â gweithio gyda gwirfoddolwyr Wikimedia...
- Darllenwch ragor yma
- Darllenwch ragor yma
Croeso ac esboniad am ein gwaith
|
Ynglŷn â Wikimedia UK
|
Wikimedia UK (neu Wicifryngau DU) ydy siapter Wikimedia ar gyfer gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Ein hamcan a'n gwaith yw cynorthwyo i gasglu, datblygu a lledaenu gwybodaeth trwyddedig a chynnwys addysgol, diwylliannol a hanesyddol, a hynny am ddim. Gwnawn hyn drwy ddod â chymunedau Wikimedia yr ynysoedd hyn at ei gilydd a thrwy adeiladu cysylltiadau gyda sefydliadau diwylliannol, prifysgolion, elusennau a chyrff eraill. Cynrychiolwn, hefyd, ein cymuned ar Sefydliad Wikimedia a'r mudiad yn fyd-eang.
Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth, trowch atom! Mae'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn gyfarfodydd cyhoeddus, neu ymunwch â ni am ddim ond £5!
Mae Wikimedia UK yn elusen gofrestredig. Cawn ein hariannu'n gyfangwbwl gan gyfraniadau gwirfoddol, yn bennaf drwy gynllun codi arian Wikimedia. Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn fudiad cwbwl ar wahân i Sefydliad Wikimedia, ac nad oes gennym reolaeth ar Wicipedia na'r un o chwiorydd neu brosiectau eraill y sefydliad hwn.
|
Cysylltu
|
|
|
|
Digwyddiadau i'w clustnodi
|
I weld holl ddigwyddiadau 2013 (a fu ac a ddaw), cliciwch yma
Mehefin
|
Torchi llewis a gweithredu
|
Ymunwch â Wikimedia UK: mae aelodaeth yn agored i bawb ac yn costio £5 yn unig, y flwyddyn. Er bod nifer o'n haelodau'n olygyddion ar un neu nifer o chwaer brosiectau Wikimedia, does dim rhaid i chi fod! Mae ein haelodau'n chwarae rhan allweddol yn llunio dyfodol ein mudiad, drwy ethol Bwrdd rheoli a llunio strategaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Digwyddiadau: trefnwn nifer o ddigwyddiadau'n flynyddol, gan gynnwys cyfarfodydd megis y golygathon, wici gyfarfodydd, digwyddiadau "y tu ôl i'r llen", gweithdai a chynadleddau. Mae bron yr holl ddigwyddiadau hyn am ddim ac yn agored i'r byd a'r betws - dewch draw i'n cyfarfod ac i ymuno yn yr hwyl!
Rydym wastad yn awyddus i gyfarfod darpar olygyddion a gwirfoddolwyr newydd. Os oes gennych chwip o syniad da, neu amser, neu sgiliau y carwch eu rhannu gyda Wicimedia UK, beth am ebostio un o aelodau'r Bwrdd? Ac i goroni'r cyfan, mae gennym arian i gynorthwyo a chefnogi prosiectau o fewn ein cymuned.
|
|
Для української мови Вікіпедії ласка, відвідайте http://uk.wikipedia.org; для Вікімедіа Україна відвідайте http://ua.wikimedia.org
For the Gaelic language Wikipedia please visit http://http://gd.wikipedia.org/wik; for Wikimedia Ukraine please visit http://ua.wikimedia.org
Os oes gennych unrhyw syniadau ar gynnwys neu ar olwg y wefan hon, gadewch sylw ar y Dudalen Sgwrs, neu arbrofwch yn y Blwch Tywod.Lua error: Internal error: The interpreter exited with status 126.