Line 82: |
Line 82: |
| [https://blog.wikimedia.org.uk/2016/02/a-year-as-wikipedian-in-residence-at-the-national-library-of-wales/<nowiki>[</nowiki>darllenwch ragor o'r erthygl yma...<nowiki>]</nowiki>] | | [https://blog.wikimedia.org.uk/2016/02/a-year-as-wikipedian-in-residence-at-the-national-library-of-wales/<nowiki>[</nowiki>darllenwch ragor o'r erthygl yma...<nowiki>]</nowiki>] |

| {{clear}}

| ;Somerville, Gwyddoniaeth a Wicipedia

| :Blog gan Martin Poulter, Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell y Bodleian.

| :30 Tachwedd 2015

| Yn gynnar yn y 19eg ganrif roedd Mary Somerville yn wyddonydd cydnabyiedig. Roedd un o'i llyfrau'n hynod o boblogaidd - y mwyaf poblogaidd - hyd nes y cafodd ei oddiweddu gan glasur Darwin, ''On the Origin of Species''. Cyhoeddodd lawer am seryddiaeth, bioleg, y Ddamcaniaeth ar Atomeg, a daearyddiaeth ffisegol a hynny ar amser pan oedd cyhoeddiadau fel eu bath yn brin iawn gan ferched. Bu'n diwtor i Ada Lovelace gan ei chyflwyno i'r cyfrifiadurwr Charles Babbage.

| [[File:Whilst time is unveiling, Science is exploring Nature CROPPED.jpg|right|thumb|''Wrh Ddadorchuddio Amser'', gan William Skelton (ysythrwr); Charles Reuben Ryley (artist) (''The Bodleian Libraries'', Rhydychen); trwydded agored [CC BY 4.0], drwy Gomin Wicimedia]]

| Ar y 12fed o Hydref daeth grŵp at ei gilydd ym Mhrifysgol Rhydychen a Llyfrgell y Bodleian gyda'r nod o hyrwyddo'r wybodaeth amdani ar Wicidestun, chwaer brosiect i Wicipedia, sydd yn ei blentyndod (y fersiwn Gymraeg). Fe wnaethom gyhoeddi papur gan Mary Somerville o 1826 ar Wicidestun. Gan fod Wicidestun mor agored, gellir defnyddio'r papur hwn ar gyfer nawdd ar gyfer ymchwil academaidd.

| Ar y diwrnod hwn hefyd fe gychwynom ni drawsysgrifo traethawd Somerville ar ''Mechanisms of the Heavens'', llyfr a ddisgrifiwyd gan y seryddwr

| John Herschel fel 'yr ymdriniaeth gywasgedig orau o athroniaeth Niwton a welwyd erioed'. Mae'r trawsysgrifiad bellach wedi'i orffen, gan gymuned Wicidestun a gellir ei weld ar: [https://en.wikisource.org/wiki/Author:Mary_Fairfax_Somerville Proffil Somerville ar Wicidestun].

| :''[https://blog.wikimedia.org.uk/2015/11/somerville-science-and-wikipedia/ darllenwch ragor o'r erthygl yma...]''

| {{clear}}

| ;Agor drysau'r GLAMiau

| :''Pwysigrwydd archifo a churadu, nid creu - addasiad Cymraeg o sylwadau gan Stuart Prior.''

| '''A. Rhannu yw Gofalu ''(Sharing is Caring)'''''

| :9 Tachwedd 2015

| A mi euthum draw am dro tua pharthau Copenhagen i fwrw'r Sul, yn rhannol i seminar blynyddol "Rhannu yw Gofalu" a oedd yn canolbwyntio ar gydweithio a rhannu gweithiau'r sector diwylliant a threftadaeth. Cynhaliwyd y seminar yn DR Koncerthuset a cheir manylion pellach arni [http://sharecare.nu/video/ yma].

| A mi ges i fy niwallu'n llwyr gan y manylion a'r arbenigedd, ill dau. Cafwyd rhaglen gyfoethog a oedd yn ateb cwestiynau am hawlfraint a gweithiau creadigol, gyda thrafodaethau bywiog gan artistiaid a chynrychiolwyr cyrff a mudiadau a oedd yn cynrychioli hawliau deiliaid hawliau a hawlfreinniau o fewn y byd celf yn Nenmarc yn ogystal a chyfreithwyr a oedd yn annog y defnydd o drwyddedau agored.

| '''B. Curadu nid creu'''

| Un o gonglfeini'r gynhadledd oedd y cysyniad mai swyddogaeth Galeriau, Llyfrgelloedd, Archifau, Amgueddfeydd a Mwy (GLAMiau) yw gwarchod, archifo a churadu ac nid creu. Yn fyr: mae GLAMiau heddiw'n creu gwaith (y rhaglenni, arddangosfeydd, profiadau ayb) fel adwaith i'r angen neu'r gofyn. "Ond mae GLAMiau'n curadu'n barod!" meddech. Ydyn, ond mae mordwyo a fforio o gwmpas y gweithiau digidol hyn yn rhywbeth newydd, sydd ar hyn o bryd yn eitha anhylaw a thywyll. Mae gwella'r dull o chwilio, archwilio, categoreiddio a graddio gweithiau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd (o blant ysgol i ôl-raddedigion) a chreu cyswllt rhwng gwahanol weithiau'n bethau newydd, sydd angen dulliau newydd, er mwyn y gynulleidfa, y darllenydd, yr ymchwilydd.

| Mae hyn i gyd yn dod yn anrhaethol bwysig pan fo cyrff yn rhyddhau cynnwys ar drwydded agored. Heb wybod ble i edrych, amhosibl yw darganfod gwaith er mwyn ei ddefnyddio, ei ail-ddefnyddio (''remix'') ac wrth i swm a sylwedd y cynnwys gynyddu, mae'r dasg yn mynd yn anos. Mae rhoi'r offer a'r gefnogaeth gywir i'r bobl hyn, boed athro, academig neu artist yn hanfodol. Hanfodol hefyd yw parchu a gofalu am y gweithiau - a'u defnyddio i'w llawn botensial.

| :''[https://blog.wikimedia.org.uk/2015/10/the-future-of-opening-up-glams/ darllenwch ragor o'r erthygl yma...]''

| {{clear}} | | {{clear}} |

| ;Croesawu Lucy Crompton-Reid yn Brif Weithredwraig newydd Wikimedia UK

| :Crynodeb o ysgrif gan Michael Maggs, Cadeirydd Wikimedia UK

| :22 Gorffennaf 2015

| Braf yw cyhoeddi fod Wikimedia UK wedi bod yn ddigon ffodus i benodi Prif Weithredwraig newydd: Lucy Crompton-Reid, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwraig 'Apples and Snakes', sef elusen sy'n ymwneud â llenyddiaeth. Mae ganddi brofiad eang o weithio gyda gwirfoddolwyr mudiadau fel ni, datblygu sefydliadau tebyg, gweithio gyda phartneriaid arbennig, y cyfryngau, addysg a sicrhau nawdd allanol gan ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill.

| [[File:Lucy Crompton-Reid.jpg|thumb|220px]]

| Dros gyfnod ei gyrfa mae hi wedi gweithio i nifer o elusennau yn ogystal â'r sector gyhoeddus. Yn ddiweddar bu'n gyfrifol am adran o Dŷ'r Arglwyddi a oedd yn ymestyn allan i'r cyhoedd yn ogystal a'r adran addysg. Cyn hynny gweithiodd i Gyngor Llenyddiaeth Lloegr, gan ddatblygu partneriaethau strategaethol cyn sefydlu partneriaethau gyda llywodraeth leol ag ysgolion. Yna trodd at Gyngor Ffoaduriaid Prydain fel cydlynydd eu gwaith ar 'Wythnos y Ffoaduriaid'. Cadeiriodd hefyd bwyllgor llywio o NGOs ac elusennau, arweiniodd at waith gyda'r cyfryngau; sicrhaodd hefyd rediad llyfn cannoedd o weithgareddau elusennol diwylliannol - yn flynyddol. Mae hi'm ymroddedig i addysg ac addysgu yn ogystal â sicrhau mynediad rhwydd ac agored i addysg a gwybodaeth.

| Bydd Lucy'n ymuno â ni yn Hydref, ac yn y cyfamser, bydd ein Prif Weithredwr dros-dro, D’Arcy Myers, yn parháu yn ei swydd, gan gydweithio gyda Lucy am gyfnod er mwyn sicrhau trosglwyddo'r awennau mor esmwyth â phosibl. Bydded y croeso iddi atom yma yn Wikimedia UK hefyd mor gynnes â phosib.

| :''[https://blog.wikimedia.org.uk/2015/07/welcoming-lucy-crompton-reid-as-new-ceo-of-wikimedia-uk/ darllenwch ragor o'r erthygl yma...]''

| {{clear}}

| ;Y bygythiad i hawliau 'Rhyddid Panorama' yng Nghymru a gweddill Ewrop

| :Addasiad o waith Stevie Benton (Wikimedia UK)

| :17 Mehefin 2015

| Pob dydd, mae miliynau o bobl yn torri deddfau hawlfraint, heb yn wybod iddynt. Mae'r rheol 'Rhyddid Panorama' yn diffinio'r hawl i dynnu ffotograff o adeiladau modern, ac mewn rhai gwledydd fel Gwlad Belg neu Ffrainc, mae hynny'n cael ei wahardd a'i gyfri'n 'dorr hawlfraint'. Yma yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, a gwledydd fel yr Almaen, caniateir i chi wneud hynny, ond mae trafodaethau'n digwydd yn Senedd Ewrop ar hyn o bryd ynglŷn ag ailwampio'r rheolau hyn a all weld dileu'r hawl neu'r rhyddid hwn.

| <gallery mode=packed heights=200px>

| Minimundus117 (edit).jpg|'''Awstria'''
[[File:Checked copyright icon.svg|40px]]
Hawl Perffaith!

| Atomium 010-censored.png|'''Gwlad Belg'''
[[File:No freedom of panorama on buildings.png|40px]]
Dim Hawl

| </gallery>

| Mae'r ddau lun uchod yn dangos mor hyrt yw'r sefyllfa: ceir dau gerflun o'r Atomium, y naill yng Ngwlad Belg a'r llall yn Awstria. Sawl gwaith y torrwyd deddfau Gwlad Belg, drwy gyhoeddi llun o'r 'Atomium' ar Trydar a Facebook er enghraifft? Ac os nad ydy'r Awdurdodau'n eich herlyn, beth yw'r pwynt o greu'r Ddeddf? Dan arweiniad Julia Reda ASE, ceisir cysoni'r rheolau ar draws Ewrop, gan ddefnyddio deddfau agored gwledydd Prydain fel model i weddill Ewrop. Mae Adroddiad Reda'n galw ar Senedd Ewrop i “sicrhau fod y defnydd o ffotograffau, fideo neu ddelweddau eraill sydd wedi'u gosod yn barhaol mewn llefydd cyhoeddus yn cael eu caniatáu.”

| [[File:Pennal Gwynedd C 02.JPG|left|thumb|Byddai cyhoeddi llun fel hwn (cerflun o Owain Glyn Dŵr yn Eglwys Pennal) yn torri'r Ddeddf!]]

| Fodd bynnag, mae nifer o Aelodau Seneddol Ewropeaidd sy'n ceisio cyflwyno'r isgymal 'anfasnachol' i'r rheolau panorama, sydd mewn gwirionedd yn eu gwneud yn dda i ddim. Byddai hyn yn golygu y byddech yn torri'r Ddeddf pe baech yn rhoi lluniau o'ch gwyliau ar Facebook neu eu huwchlwytho i erthygl ar Owain Glyn Dŵr ar y Wicipedia Cymraeg!

| “Mae gan lawer ohonom, bellach, gamera a chyfrifiadur yn rhan o'n ffôn,” medd Michael Maggs, Cadeirydd Wikimedia UK. “Mae'r datblygiadau diweddaraf yn ei gwneud hi'n haws i ni rannu ein ffotograffau a'n fideos ar-lein. Mae dod a'r cymal 'non-commercial' i fewn i'r llun yn ei gwneud hi'n drosedd i Ewropeaid rannu llawer o'r cynnwys hwn. Mae'n dileu rhyddid yr unigolyn.”

| Pe bai'r ddeddf newydd i wrthwynebu Rhyddid neu'r hawl i banorama, yna mae elfen chwerthinllyd yn dod i'r darlun! Caniateir tynnu llun y Tŵr Eiffel (oherwydd ei oed) - os tynnir y llun yn ystod y dydd. Ond fin nos, mae'r golau arno cael ei ystyried yn osodiad 3-dimensiwn gwahanol, felly ni fydd hawl gan unrhyw berson i dynnu llun o'r Tŵr yn ystod y nos!

| :''[https://blog.wikimedia.org.uk/2015/06/uk-at-risk-of-losing-freedom-of-panorama/ darllenwch ragor o'r erthygl yma...]''

| {{clear}}

| ;Ail Wicipedwraig preswyl i'r Alban

| :''Ysgrifennwyd y blog hwn gan Sara Thomas, Wicipedwraig newydd Amgueddfa Genedlaethol yr Alban

| :30 Mawrth 2015

| [[File:Sara Thomas.JPG|thumb|280px|Sara Thomas]]

| Dw i'n sgwennu'r blog yma tra'n eistedd yn Amgueddfa Celf Fodern yr Alban. Mae'r 'di-wifr' yn llydan o 'ngwmpas, diolch byth! Ac mae'r baned cystal bob tamed hefyd! Yr wythnos yma dw i wedi bod yn Amgueddfa Kelvingrove yn rhoi gwybod i Fforwm y Curiaduron be 'di fy rôl a ngwaith. Yr wythnos yma hefyd, dw i wedi bod yng Nghanolfan Adnoddau Amgueddfa Glasgow, yn cyfarfod chwaneg o bobl ac yn cael sbec i weld beth sydd ganddyn nhw'n newydd. Dim ond pythefnos yn fy ngwaith newydd, ac hyd yma, dw i wrth fy modd!

| Dyma'r ail breswyliad yn yr Alban, wedi'r arbenigwraig wiciaidd Ally Crockford. Cytundeb bwlyddyn sydd gen i a hynny efo Galeriau ac Amgueddfeydd yr Alban. Bydd fy swydd yn llawn rhwydweithio (fel Prosiect Rhwydweithio Pat Hadley yn Swydd Efrog) a bwriadaf gydweithio efo llawer o gyrff a sefydliadau dros yr Alban benbaladr! Dwi'n andros o gyffrous am y peth!

| Dw i 'di byw yn Glasgow ers diwedd y 1990au, a phleser pur ydy siarad am gynnwys a gwybodaeth agored efo sefydliadau dw i'n eu nabod mor dda dros y blynyddoedd, yn enwedig Amgueddfa Kelvingrove. Dw i'n edrych ymlaen hefyd i ymchwilio i gasgliadau Prosiect Kelvin Hall, sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, gan edrych sut y gallan nhw gyfoethogi'r gwyddoniadur. Mae na sawl sgwarnog arall, yn barod, wedi codi ei ben, a fydd efallai'n arwain at nifer o sefydliadau eraill, fel ein bod yn dechrau meithrin partneriaeth newydd rhwng y rhain a Wicimedia. Mi rof wybod i chi sut mae pethe'n mynd...

| {{clear}}

| ;Prifysgol Abertawe a Merched yr Oesoedd Canol

| [[File:Swansea University Prifysgol Abertawe Edit-a-thon Ionaw 2015 1.JPG|330px|thumb|left]]

| :''Ysgrifennwyd y blog hwn gan yr Athro Deborah Youngs a'r Dr Sparky Brooks, Prifysgol Abertawe

| :6 Chwefror 2015

| Ar yr 28ain Ionawr, 2015, bu'r ddau ohonom yn gyfrifol am Olygathon cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru, gyda'r nod o wella erthyglau ar ferched ar Wicipedia. Canolbwyntiwyd ar [https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/7/76/Editor_Survey_Report_-_April_2011.pdf leihau'r gwahaniaeth enbyd rhwng y ddau ryw ar Wicipedia] - o ran cynyddu'r wybodaeth ar ferched yn [[:w:cy:Yr Oesoedd Canol|yr Oesoedd Canol]] a chynyddu'r nifer o ferched sy'n golygu.

| Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r digwyddiad oedd sgwrs gyda Robin Owain ar sut i godi proffil merched o Gymru ar Wicipedia. Ar y pryd, roeddem yma ym [[:cy:Prifysgol Abertawe|Mhrifysgol Abertawe]] newydd gychwyn ymchwil bedair blynedd ar ferched yn yr Oesoedd Canol - a pha mor hawdd oedd hi'r adeg honno iddyn nhw gael cymorth yn eu hymwneud â byd y gyfraith yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon (1100-1750) wedi'i ariannu gan AHRC. Roedd Robin wedi gweld y ddwy ohonom mewn cyfweliad am y prosiect ar raglen ''Wales Today'' gan y BBC a chredodd y byddai ychwanegu gwybodaeth a ddaw o'r prosiect ar Wicipedia yn beth da, ac yn addas ar gyfer golygathon.

| Rydym yn awyddus i wella'r cynnwys am ferched mewn hanes, a chanolbwyntiwyd yn y golygathon ar Gymru a'r Iwerddon, gan mai dyna brif faes ein prosiect. Roedd paratoi ar gyfer y diwrnod yn agoriad llygad! Buan y sylweddolem nad oedd erthyglau ar rai ferched nodedig. Roedd hi'n gryn sioc nad oedd erthyglau'n bodoli ar [[:cy:w:Jane Dee|Jane Dee]], gwraig John Dee, yr athronydd Elisabethaidd neu [[:cy:Sanana ferch Caradog|Sanana ferch Caradog]], gwraig Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Roedd erthyglau enfawr ar eu gwŷr, wrth gwrs! Ar y llaw arall, roedd hi'n galonogol iawn gweld fod gan rai merched erthyglau swmpus, amdanynt a digonedd o gyfeiriadau solad ynddynt. Ceisiwyd gwella rhai erthyglau a oedd yn bodoli'n barod; roedd rhai wedi'u creu gan unigolion ac eraill mewn golygathonau tebyg e.e. [[:en:w:Gormflaith ingen Murchada|Gormflaith ingen Murchada]].

| :''[https://blog.wikimedia.org.uk/2015/02/women-and-wikipedia-editathon-swansea/ darllenwch ragor o'r erthygl yma...]''

| {{clear}}