Y golygathon yn ei anterth
Sgwennwyd y blog hwn gan Edward Hands, un o wirfoddolwyr Wikimedia UK.
Ydy teitlau megis “Reanimating Ice-cold Rats” a “Resuscitating Hamsters” yn mynd i ysbrydoli gwyddonwyr benywaidd i olygu erthyglau gwyddonol ar Wicipedia?
Dyma un o'r cwestiynnau a ofynwyd mewn golygathon a sesiwn hyfforddi diweddar a drefnais ar y cyd gyda y Cyngor dros Ymchwil Meddygol (Medical Research Council) a'r Gymdeithas Frenhinol (Royal Society), yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (National Institute for Medical Research (NIMR)), Mill Hill, Llundain, gydag ugain o ferched a thri gŵr doeth a dewr!
Roedd y digwyddiad yn cynnwys siaradwr gwadd a phanel cwestiwn-ac-ateb wedi ei arwain gan
The event included a lunchtime talk and panel Q&A led by Professor Dame Athene Donald FRS, a nododd nifer o resymau pam fod hi'n anoddach i ferch gael dyrchafiad i'r swyddi gorau yn y byd gwyddonol. Beth a ddaeth i'r wyneb oedd y anghydbwysedd, neu'r rhagfarn a wynebant, a sut y gellid goresgyn y problemau hyn e.e. drwy hyfforddi rhagor o ferched i olygu Wicipedia a llenwi'r bylchau o ran gwyddonwyr benywaidd, o nod.
Trefnwyd y sesiwn ar 25 Gorffennaf, 2013, sef diwrnod pen-blwydd Rosalind Franklin (brenhines DNA), a dathlwyd y digwyddiad hwnnw gyda chlamp o gacen. Roedd y deisen yn gyforiog o eisin ar ffurf helics dwbwl a'r llun enwog ohoni (sef "ffotograff 51") yn coroni'r cyfan. Ac ar ben hyn, roedd y lleoliad yn arbennig, gydag un o'r golygfeydd gorau o Lundain. Roedd cyngor arbenigol wrth law a phapurau a llyfrau dethol wedi'u darparu gan lyfrgellwyr NIMR: Frank Norman, Patti Biggs, a Phoebe Harkins o'r Wellcome Library.
[http://blog.wikimedia.org.uk/2013/08/revitalising-wikipedia-coverage-of-women-scientists/
- Sphingonet and Wikipedia
Daria Cybulska (ail o'r chwith), aelod o staff Wikimedia yn cynorthwyo ymchwilwyr meddygol i olygu Wicipedia.
- Sgwennwyd gan Richard Nevell.
Ar y 10fed o Orffennaf 2013, teithiodd pedwar o hyfforddwyr Wikimedia UK i Rydychen i gyfarfod grwp o ddoethuriaiad ymchwil israddedig ac ôl-raddedig. Cafwyd y syniad yn wreiddiol nôl yn Chwefror a hynny gan Luc Henry. Cynlluniwyd yn ofalus cyn y digwyddiad a gofalodd Luc fod y trefniadau'n berffaith! Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan bedwar ohonom: Toni Sant, Daria Cybulska, Brian Kelly a minnau.
Ymchwil i fewn i sphingolipids gan ymchwilwyr cynnar ydy Sphingonet; ac mae'n gynllun ar gyfer ymchwilwyr o bum gwlad. Cânt eu harianu gan raglen ymchwil Marie Curie Actions yr Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o'u gwaith, mae ganddynt weithgareddau pwrpasol ar gyfer hysbysu'r cyhoedd o'u canfyddiadau. Prin iawn yw'r rhai sy'n cyrraedd cymaint o gynulleidfa a Wicipedia, fodd bynnag! Yn bresenol hefyd roedd y Wicipewraig mewn gwaith yn Llyfgrell Genedlaethol yr Alban.
- Darllenwch ragor yma
- Mike Peel yn ymddiswyddo o Fwrdd Wikimedia UK
- 27 Gorffennaf 2013 gan Stevie Benton
Gyda gofid y cyhoeddwn i Mike Peel ymddiswyddo fel un o ymddiriedolwyr ein helusen.
Mae cyfraniad Mike dros y blynyddoedd i'r elusen ac i'r mudiad Wikimedia'n cael ei werthfawrogi a'i edmygu gan bawb. Daeth yn Wicipediwr yn 2005 ac yn un o sylfaenwyr Wikimedia UK. Bu'n aelod o Fwrdd yr elusen, yn gadeirydd ac yn ysgrifennydd yn ei dro a hynny ers sefydlu'r Bwrdd yn 2008. Mae ei gyfraniad yn amhrisiadwy ac yn rhy niferus i'w rhestru yma! Yn wir, byddai'n ganmil haws rhestru'r prosiectau NAD ydyw wedi bod yn rhan ohonynt.
Dywedodd Chris Keating, Cadeirydd Wikimedia UK: "Ni fyddai WMUK yn bodoli heb gyfraniad Mike dros y blynyddoedd. Bu'n allweddol yng ngweithgareddau'r Bwrdd. Mae ganddo synnwyr moesoldeb di-syfl, dyfalbarhad ac mae gwaith caled yn ei galon! Yno hefyd mae ei weledigaeth a'i werthoedd o'r hyn rydym yn ceisio'i gyrraedd a'i gyflawni."
Mae Mike yn awyddus iawn, fodd bynnag, i roi ei ynni yng ngwaith Pwyllgor Rhannu Arian Wikimedia Foundation a dychwelyd at rai prosiectau eraill sydd gan Wikimedia. Bydd hefyd yn parhau ei gysylltiad agos gyda Wici Cymru a'r prosiect Llwybrau Byw!.
- Darllenwch ragor yma
- Ashley Van Haeften yn ymddiswyddo o Fwrdd Wikimedia UK
- 13 Gorffennaf 2013; gan Stevie Benton
Cyhoeddodd Wikimedia UK fod Ashley Van Haeften (Defnyddiwr:Fae) wedi penderfynnu ymddiswyddo fel ymddiriedolwr yr elusen, a hynny ar unwaith.
Cyfrannodd Fæ yn helaeth at waith y mudiad Wikimedia a'r elusen ers iddo gael ei ethol i'r bwrdd yn Ebrill 2011, gan Gadeirio rhwng Ebrill 2012 ac Awst 2012.
Mae Wikimedia UK yn diolch iddo ac yn gwerthfawrogi'r gwaith da, yr amser a roddodd a'i arbenigedd dros y ddwy flynedd diwethaf. Gobeithiwn yn fawr y gwneith barhau i gyfrannu yng ngweithgareddau'r Siapter fel aelod a dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol.
Bydd y Bwrdd yn trafod cyfethol rhywun yn ei le a bydd datganiad arall yn cael ei wneud cyn hir.
- Darllenwch ragor yma
- Casgliad o Ddelweddau o Ganada yn y Llyfrgell Brydeinig sydd bellach ar Gomin Wicipedia
Enghraifft o un o'r delweddau o'r Casgliad
- 5 Gorffennaf 2013. Sgwennwyd y postiad hwn gan Andrew Grey a Philip Hatfield ac fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar
flog Wikimedia Foundation yn fama.
Roedd y cyntaf o Orffennaf yn Ddiwrnod Canada, a chyhoeddodd Wikimedia UK a'r Llyfgell Brydeinig (BL) eu bônt wedi rhyddhau 2,000 o hen ffotograffau o Ganada.
Ers Medi 2012, buom yn gweithio'n digideiddio casgliad o ffotograffau hanesyddol o Ganada gan eu rhyddhau ar Gomin Wicipedia ac felly i'r parth cyhoeddus. Daeth y casgliad yn eiddo i'r BL rhwng 1895 a 1924 ac mae'n cynnwys ffotograffau cyfraniad hawlfraint gan ffotograffwyr y cyfnod hwnnw. Trefnwyd y cyfraniad hawlfraint hwn drwy ddeddf drefedigaethol parthed hawlfraint ("Colonial Copyright Law"), a geisiodd ymestyn deddfau hawlfraint Prydeinig dros ei hymerodraeth. Yn ymarferol, roedd y ddeddf hon yn fethiant llwyr a dim ond llond dwrn o diriogaethau wnaeth ei pharchu drwy gyfrannu deunydd. Ond hyd at 1925, fe wnaeth Ganada hynny a gweinyddodd yr Adran Amaeth y ddeddf ar eu rhan. Danfonwyd copi o bob eitem i Ottawa ac i Lundain, ble gawsant eu harchifo gan y BL ac yna eu anghofio am ddegawdau.
Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau wedi'i cyhoeddi, cerddoriaeth, mapiau ac wrth gwrs, ffotograffau. Er fod y ffotograffau, ar y pryd, yn cael eu cyfri fel pethau dibwys, maent bellach yn cael eu cyfri fel cip ar fywyd yng Nghanada ar adeg tyngedfenol yn ei hanes; 30 mlynedd o ddatblygiad y Cyd-ffederasiwn, yn wleidyddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol tra'n ceisio cydnabyddiaeth fydeang. Mae'r casgliad felly'n groesdorriad gweledol o wladwriaeth yn newid, o Vancouver i Halifax gyda ffotograffwyr mân a mawr megis Frank Micklethwaite or William Notman.
Mae'r lluniau i'w cael yma ar Gomin Wicipedia.
- Darllenwch ragor yma
- Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru
- 2 Gorffennaf, 2013
Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi penodiad Robin Owain, ein Rheolwr cyntaf yng Nghymru.
Dechreuodd Robin ar y gwaith heddiw, a bydd yn arwain y prosiect Llwybrau Byw! Bydd hefyd yn arwain ein hymgais i ehangu’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru.
Bydd ei swydd yn para am 12 mis. Dywedodd Robin: “Mae mynd i fewn – i ganol y gweithgareddau – gan ddangos i werin Cymru be allant wneud yn rhoi byz anhygoel i mi: gall bawb fod yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn addysgwr drwy gyfrwng Wicipedia, a rhoi yn ôl rhywbeth gwerthfawr iawn i gymdeithas.
“Mae bod yn rhan o Wikimedia UK a Wici Cymru (dau griw bendigedig) yn sylfaen gadarn yn fy ngwaith o gerdded y Llwybrau Byw.”
Dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK, “Mae penodiad Robin fel ein Rheolwr yng Nghymru yn rhan hanfodol o’n strategath ”outreach”. Wicipedia Cymraeg ydy’r wefan Gymraeg fwyaf boblogaidd yn y byd ac rydym yn ymfalchio ein bod yn medru cefnogi’r Gymrag.
“Er gwaetha’r ffaith fy mod yn hanner Cymro fy hun, mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn fach, ond dw i’n falch iawn fy mod yn medru cynorthwyo i’w bywiogi fel hyn, er mor fychan yw’r cyfraniad hwnnw.”
- Darllenwch ragor yma
- Jisc a Wikimedia UK yn codi pont rhwng academia a Wicipedia
- 27 Mehefin 2013 gan Stevie Benton
Mae Jisc a Wicimedia UK yn cydweithio ar brosiect sy'n dod a'r byd academaidd a Wicipedia yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr, addysgwyr a'r cyhoedd i gyfrannu tuag at wybodaeth rhydd, am ddim ac sy'n agored i bawb.
Mae'r elusen addysgol Jisc yn arbenigwr mewn technoleg ddigidol o fewn y byd addysg ac ymchwil, ac mae nhw'n cefnogi'r prosiect hwn er mwyn ehangu'r gynulleidfa a wneith fanteisio ar y gwaith blaenllaw ac avant-garde mae'n ei wneud. Mae'r gwaith yma'n cynnwys adnoddau agored addysgol, casgliadau o waith ymchwil arlein a chasgliadau eraill (e.e. papurau newydd wedi'u digideiddio). Mae Wikimedia UK yn elusen sy'n cefnogi Wicipedia Cymraeg a phob un o'r 280 iaith arall a'i chwaer brosiectau megis Comin, Wiciadur a Wicidestun. Mae'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn llyfrgelloedd, prifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau eraill er mwyn gwella'r wybodaeth sydd ar y prosiectau hyn ac er mwyn ehangu hygyrchedd y wybodaeth er lles pawb.
Mae'r prosiect hwn wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bryste. Bydd yn hyfforddi arbenigwyr yn eu gweithle ac yn cynnal ambell "olygathon" a fydd yn agored i'r cyhoedd. Penodwyd y Dr Martin Poulter yn Llysgennad i'r prosiect a bydd yn gyfrifol am bontio rhwng y ddwy gymuned: Jisc a Wikimedia UK. Penodwyd Dr Toni Sant ychydig yn ôl yn gyfrifol am yr adran addysg o fewn WMUK, adran sy'n canolbwyntio ar addysg drydyddol. Bydd gwaith Martin yn cynnwys clustnodi meysydd i'w datblygu yn ogystal a threfnu Cynhadledd EduWiki ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2013.
- Darllenwch ragor yma
- Cynhadledd WMUK – Mediawiki ar gyfer OER a Learning Analytics
- 12 Mehefin 2013 gan Richard Nevell. Cyhoeddwyd y testun gwreiddiol a welir isod gan Simon Knight, yma.
Ddydd Sadwrn, yn Lincoln, siaradais yng Nghynhadledd Wikimedia UK am y defnydd o Mediwiki ar gyfer Adnoddau Dysgu Agored (OER, neu Open educational resources) a Learning Analytics; mae'r sleidiau a gyflwynais i'w cael yma a bydd fideo o'r cyflwyniad ar lein cyn hir.
Mi wnes i gyfarfod grwp o bobl yn EduWiki 2012 (a rhennais ychydig o fy syniadau yma: EduWiki 2012), ceisiais adeiladu fy sgwrs ar y gwaith a wnes yng Nghaergrawnt ar y prosiect ORBIT – creu llwyfan o adnoddau dysgu agored ar gyfer dysgu rhyngweithiol yn enwedig y pynciau STEM a gweithiau eraill sy'n berthnasol i fy ngwaith PhD.
- Darllenwch ragor yma
- Wythnos y Gwirfoddolwr - llythyr gan ein Prif Weithredwr
- 4 Mehefin 2013 gan Stevie Benton. Sgwennwyd y cofnod blog canlynol gan Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK
Jon Davies, Prif Weithredwr WMUK
Mae 1-7 Mehefin yn Ddiwrnod y Gwirfoddolwr yn y DU. Pa well ffordd i'n hatgoffa fod prosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, yn cael eu sgwennu'n gyfangwbwl gan wirfoddolwyr?
Ers dros 12 mlynedd mae criw enfawr o bobl, o bob cefndir dan haul, ac o bob oedran, barn, a diddordebau, wedi dod at ei gilydd i greu y cefnfor eang yma o wybodaeth rhydd, gan ei rannu gydag eraill gan eu bont yn credu fod hynny'n beth da a gwerth chweil. Ac mae nhw'n parhau i wneud hynny.
Carem gynnig ein diolch di-ben-draw a chynhesaf i bawb sy'n gwirfoddoli i ryddhau a datblygu'r cefnfor hwn o wybodaeth, am eu hynni, a'u hamser i hyrwyddo'r cysyniad hwn o wybodaeth rhydd ac am ddim i bawb. Waeth pa ran o'r gwaith rydych yn ei wneud: cywiro camsillafu, golygu'r cynnwys, sgwennu a datblygu erthyglau, hyfforddi golygyddion newydd, gweithio gyda'r adran GLAM neu addysg neu hyd yn oed gwneud paned o de - can diolch i chi am wneud Wikimedia'n bosib. A dyma pam yr es ati i ofyn i fy nghydweithwyr sut roedden nhw'n teimlo ynglŷn â gweithio gyda gwirfoddolwyr Wikimedia...
- Darllenwch ragor yma