Expert outreach/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol: Difference between revisions

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Line 130: Line 130:
* Radio Bronglais - Cyfweliad anffurfiol am gwaeth y Wicimediwr yn y Llyfrgell Genedlaethol. 22 Awst 2017.
* Radio Bronglais - Cyfweliad anffurfiol am gwaeth y Wicimediwr yn y Llyfrgell Genedlaethol. 22 Awst 2017.
* BBC Radio Cymru, Post Cyntaf - Cyfweliad am y swydd newydd yn LLGC. 24 Awst 2017.
* BBC Radio Cymru, Post Cyntaf - Cyfweliad am y swydd newydd yn LLGC. 24 Awst 2017.
* [http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43567307 BBC Cymru Fyw - Story am cyrraedd 100mil o erthyglau ar y Wici Cymraeg. 28/3/18]


=== Blogiau/erthglau ===
=== Blogiau/erthglau ===

Revision as of 13:36, 28 March 2018

ENGLISH
Ar gyfer y prosiect Wicipediwr preswyl gwreiddiol cliciwch yma

Welsh graphic. National Library of Wales.jpg
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Wikimedia UK, a'r gymuned golygu wedi gweithio gyda'i gilydd ers 2014 i gynnal Wicipediwr Preswyl ac ym mis Awst 2017 penododd y Llyfrgell Genedlaethol Wicimediwr parhaol i'w staff. Bellach mae Wikipedia a'i chwaer-brojectau yn agwedd graidd o weithgareddau a gwasanaethau'r Llyfrgell. Gan adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus rhwng y Llyfrgell, Wikimedia UK a chymuned Wiki, bydd y Wicimediwr Cenedlaethol yn arwain gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chasgliadau'r Llyfrgell, Cymru fel cenedl a'r iaith Gymraeg. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Wicipedia, [[cy:defnyddiwr:jason.nlw|Jason Evans]

Join us at The Celtic Knot Conference 2018! Ymunwch â ni yn Gynhadledd y Celtic Knot 2018!

Nodau ac amcanion

  • Hyrwyddo hanes, iaith a diwylliant Cymru ar lwyfannau Wikimedia.
  • cynorthwyo efo adeiladu, tyfu a chynnal cymunedau o olygyddion newydd.
  • Darparu mynediad agored i gynnwys digidol o'r Llyfrgell Genedlaethol trwy lwyfannau Wikimedia.
  • Gweithio gyda'r Llywodraeth Cymru, y sectorau addysg a diwylliant i adeiladu partneriaethau, hyrwyddo mynediad agored ac annog ymgysylltu â phrosiectau Wikimedia.
  • Sicrhau cyllid ar gyfer, a chyflwyno, prosiectau ar gyfer gwella ansawdd a chwmpas yr Wicipedia Cymraeg.
  • Datblygu a chyflwyno prosiectau Wiki i wirfoddolwyr y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a datblygu'r cynllun ysgolheigion preswyl Wiki.

Gweithgareddau

Bydd gweithgareddau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â'r rhaglen yn cael eu cofnodi a'u diweddaru'n rheolaidd ar y dudalen hon.

Prosiect Wici-Iechyd

Yn dilyn llwyddiant y prosiect Wicipop, a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru, gwnaeth y Llyfrgell Genedlaethol gais llwyddiannus am £40,000 gan y Gymraeg Llywodraeth er mwyn rhedeg prosiect 9 mis gyda'r nod o wella cynnwys cysylltiedig ag iechyd ar y Wicipedia yr iaith Gymraeg. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned, gan sicrhau rhyddhau testunau iechyd trwyddedig agored a defnyddio data, a chyfieithu peirianyddol i gynhyrchu cynnwys Wikipedia yn yr iaith Gymraeg yn awtomatig. Prif nodau'r prosiect yw:

  • Creu 3000 o erthyglau newydd yn ymwneud â iechyd yn yr iaith Gymraeg.
  • Cynnal 4 Golygathon mewn lleoliadau ledled Cymru.
  • Datblygu technegau ar gyfer cyfieithu a safoni termau meddygol yn yr iaith Gymraeg.


Delweddau ar Comin

Gall gweld yr holl delweddau mae'r Llyfrgell wedi rhannu gyda Wikimedia yma

Prosiectau Gwirfoddoli

Gall gweld cofnod o brosiectau a chynhaliwyd efo'r tîm gwirfoddoli'r Llyfrgell yma


Digwyddiadau

Ysgolheigion Preswyl Wicipedia

Yn Hydref 2016 Y Llyfrgell Genedlaethol oedd y corf cyntaf ym Mhrydain i penodi Ysgolheigion Preswyl Wici o dan gynllun y Wiki Education Foundation. Gallwch ddylyn y prosiect yma

Ysgolheigion Preswyl Wikidata

Ym mis Ebrill 2016 y Llyfrgell Genedlaethol oedd y sefydliad cyntaf yn y byd i gynnal ysgolhaig preswyl Wikidata. Gallwch ddilyn cynnydd y gwirfoddolwr yma


Adroddiadau misol

Fideos o Cyflwyniadau

Sylw yn y Wasg

Blogiau/erthglau

Cefndir

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ôl papur a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r casgliadau yn cynnwys

  • 6 miliwn o llyfr, cylchgrawn, papur newydd a deunydd print arall
  • 25,000 llawysgrif (yr hynaf yn dyddio o 113 AD, ac yn cynnwys y llawysgrifau cynharaf yn y Gymraeg)
  • 2,500 casgliadau archifol
  • 1 miliwn mapiau
  • 40,000 o lluniau
  • 800,000 o ffotograffau
  • 5.5miliwn troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 200,000 awr o recordiadau sain

Cyswllt

Cysylltwch efo Jason Evans drwy e-bost jje@llgc.org.uk neu gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs Jason.nlw (talk)