Ers 19eg o Ionawr 2015, mae Wikimedia UK a'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn cydweithio ar brosiect i ddatblygu adnoddau, ffeiliau digidol a mathau eraill o wybodaeth ar drwydded agored. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio ehangu a gwella'r mynediad i'r wybodaeth a gedwir gan y Llyfrgell. Bydd y Wicipediwr Preswyl yn canolbwyntio ar y gwaith hwn ac hefyd yn hwyluso rhaglen o ‘Editathons’ a gweithdai staff. Mae'r prosiect hwn yn cydfynd a'r pwyslais ar bartneriaethau diwylliannol a chymorth arbenigol gan Wikimedia UK. Amcan y dudalen hon yw ysgogi trafodaeth a darparu gwybodaeth am brosiectau cyfredol a phrosiectau posib ar gyfer y dyfodol yn sgil y cydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wikimedia. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ddigwyddiadau a drefnwyd gan Wikimedia yn y LLGC, neu gyfrannu at gymuned Wikimedia yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â'r Wicipediwr PreswylJason Evans
Bydd y cyfnod preswyl yn parhau am flwyddyn gyda'r nod o godi pontydd parhaol rhwng y Llyfrgell a Wicipedia. Bydd y Wicipediwr preswyl yn cydweithio'n agos gyda staff y Llyfrgell i hwyluso rhyddhau casgliadau digidol dan drwyddedau agored i'w defnyddio ar Wicipedia a mannau eraill. Yn ogystal, bydd ffocws ar wella cynnwys Wicipedia drwy gynnal cyfres o ‘Olygathonau’ (Editathons). Hefyd bydd cyfres o weithdai ar ddefnyddio a golygu Wicipedia yn cael eu cynnig i bob aelod o staff.
Trwy gefnogi a chyfranogi yn natblygiad adnodd sydd â phroffil mor uchel, bydd y fenter hon yn cyfrannu at gyflawni ein hamcan o ddarparu 'Gwybodaeth i Bawb' ac yn ei dro yn denu pobl yn ôl at wasanaethau a chasgliadau’r Llyfrgell.
Gweithgareddau
Wrth i'r cyfnod preswyl fynd yn ei flaen bydd log o brosiectau neu ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu, cyfraniadau sydd ar y gweill, a chyfraniadau sydd wedi'u nodi ar gyfer y dyfodol, yn cael ei ddiweddaru yma. Rwy’n annog pob defnyddiwr Wikimedia, yn arbennig y rhai yng Nghymru, i gysylltu â mi unrhyw bryd gydag awgrymiadau neu gynigion i helpu!
Mae rhestr o dros 5000 o erthyglau Gymraeg efo Geotags, ond heb ddelweddau, wedi cael ei greu yma. Y nod yw defnyddio'r rhestr hon wrth hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i olygu ac ychwanegu delweddau at Wici. Hefyd mae yna gyfle i gynnal digwyddiad penodol i ychwanegu delweddau i’r erthyglau hyn. Chwefror 2, 2015
Prosiect Wicipop
Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect 3 mis o hyd, i hyfforddi golygyddion i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth a'r diwylliant pop Cymraeg. Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd trwy rhaglen o digwyddiadau, partneriaethau cynnyws a data a prawf efo awtomeiddio creu cynnwys o data. Mae modd dilyn y prosiect ar ein tudalen Wicibrosiect. Dyma ragor o lincs perthnasol.
Yn Fawrth 2016 Y Llyfrgell Genedlaethol oedd y corf cyntaf yn Brydain i hysbysebu am Ysgolheigion Preswyl Wicipedia o dan gynllun y Wiki Education Foundation. Gallwch ddylyn y prosiect yma
19 Tachwedd - Cyfweliad BBC Radio Cymru am gwaith y Llyfrgell efo Wicipedia
23 Rhagfyr -Cyfweliad ar rhaglen C2 - Radio Cymru am cynwys Nadoligaidd ar Wicipedia
Yn dilyn darganfyddiad o fersiwn anhysbys o'r Anthem Genedlaethol Cymru wrth baratoi adnoddau ar gyfer y Golygathon Y Wladfa, gaeth y darganfyddiad, y digwyddiad a fy mhreswyliad yn gyffredinol, sylw sylweddol yn y gwasg.
Cyfweliad 3 munud - BBC Radio Cymru (Cymraeg), 17 Mehefin 2015.
Yn ôl papur a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r casgliadau yn cynnwys
6 miliwn o llyfr, cylchgrawn, papur newydd a deunydd print arall
25,000 llawysgrif (yr hynaf yn dyddio o 113 AD, ac yn cynnwys y llawysgrifau cynharaf yn y Gymraeg)
2,500 casgliadau archifol
1 miliwn mapiau
40,000 o lluniau
800,000 o ffotograffau
5.5miliwn troedfedd o ffilm
250,000 awr o fideo
200,000 awr o recordiadau sain
Y Wicipediwr Preswyl
Wicipediwr (neu Wicipediwr) Preswyl yw Wicipediwr sy'n gweithio yn fewnol mewn sefydliad. Yn sylfaenol mae’r rôl yn ymwneud â galluogi’r sefydliad a'i aelodau i barhau perthynas gynhyrchiol gyda'r gwyddoniadur a'i chymuned ar ôl i'r cyfnod preswyl ddod i ben. Y nod yw hyrwyddo dealltwriaeth o brosiectau Wikimedia ymysg staff y Llyfrgell, yn ogystal â sefydliadau GLAM yng Nghymru yn fwy cyffredinol, drwy drefnu gweithdai a digwyddiadau. Mae Wicipediwr Preswyl hefyd yn gweithio gyda staff i ddigido, crynhoi, a threfnu adnoddau y gellir eu rhannu a chymuned Wikimedia.
Cyswllt
Cysylltwch efo Jason Evans drwy e-bost jje@llgc.org.uk neu gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs Jason.nlw (talk) 09:57, 27 January 2015 (GMT)