- Rhai Cerrig Milltir y Wicipedia Cymraeg drwy Lygad Rheolwr Cymru
- Blog gan Robin Owain, Rheolwr Cymru 17 Tachwedd
Yn Rhagfyr 2016, rhoddais dros 150 o fy ngherddi ar y we am ddim i bawb mewn casglai o'r enw Rebel ar y We a newidiwyd yn 2005 i Rededeg ar Wydr. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach cychwynais gylchgrawn digidol o'r enw Gwefr gan alw ar feirdd a llenorion roi eu gwaith hwythau ar y we am ddim i bawb. Chredwch chi ddim y cicio a'r gweiddi a fu! Ac er i bob un o'r beirdd lofnodi eu caniatad i gyhoeddi'r cerddi, gwaeddodd un perchennog gwasg Gymreig: "Mae cannoedd o bunnoedd yn y fantol!" (Gweler Golwg, 1996). Roedd yn gweld ei golled ariannol ei hun yn bwysicach na hawl llenorion Cymru i gyhoeddi eu gwaith eu hunan, yn bwysicach na'r Gymraeg.
Danfonodd lai na hanner ataf yn gofyn i mi dynnu eu gwaith o'r wefan, a mi wnes hynny. Mae'n siwr fod ganddynt ofn na chant fyth eto gyhoeddi eu gwaith pe baent mor wrthryfelgar â rhoi eu gwaith yn uniongyrchol ar y we am ddim i bawb! Cyhoeddwyd adolygiad o Rebel ar y We yng Ngwanwyn 1997 yn Llais Llyfrau (Cyngor Llyfrau Cymru) a nodwyd mai dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i'w rhoi ar y we. Erbyn heddiw, gallem ei galw'n e-lyfr, ond doedd y gair hwnnw ddim ar gael am ugain mlynedd arall! Ond,a ninnau ar drothwy 2017, a'r gyfrol yn 20 oed, chlywais i ddim am unrhyw ddathliad o fath yn y byd! A mi eith y pen-blwydd heibio, mi wranta, heb na balŵn, na channwyll na cherdyn pen-blwydd.
Pan fewngofnodais am y tro cyntaf ar y Wicipedia Cymraeg (cy-wici) ar 7 Mehefin 2008, roedd na tua 16,000 o erthyglau ac mae'r nifer hwnnw wedi codi, bellach i dros 81,400. Yng Ngorffennaf 2003 y teipiwyd y gair cyntaf ar cy-wici ar yr erthygl ar y Gymraeg; yn fuan ar ôl hynny y daeth: Llywelyn ap Gruffudd, Rhestr Cymry, Gwiwer, David R. Edwards ac Owain Gwynedd. Y mis hwnnw roedd yr en-wici dros ddwy oed.
Ch- dde: Robin Owain, Marc Haynes ac Aled Powell.
Yng Ngorffennaf 2008 dechreuais drafodaeth am nawdd a datblygu cy-wici drwy bartneru gyda chyrff erall. Roedd llai na 20,000 o erthyglau ar y pryd a datblygodd y drafodaeth yn weithgaredd unigolion y tu allan i WP ee cysylltu gyda Bwrdd yr Iaith, Prifysgol Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol. Datblygodd hyn yn gais am nawdd a chafwyd £65,000 gan Lywodraeth Cymru a lansiwyd y prosiect 'Llwybrau Byw'. Fe'm penodwyd yn Rheolwr Cymdeithas Wici Cymru, gyda Wikimedia UK yn gwneud y gwaith papur o ddydd i ddydd. Ar ddiwedd y flwyddyn parhaodd y cytundeb a dw i'n dal yn fy swydd.
Ceir llawer o fanylion ar gerrig milltir eraill ar y dudalen Wicipedia Cymraeg ar cy-wici. Ond o'm rhan i, mae'r canlynol, wedi'u serio yn fy mêr:
- 9 Ebrill 2004 y milfed erthygl
- 1 Gorffennaf 2008' Cyflwynais y syniad o ymgyrch am nawdd gan y Brifysgol / Bwrdd yr Iaith i gyflogi Wicipedwyr llawn amser.
- 20 Tachwedd 2008 yr 20,000fed erthygl (Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984)
- 23 Ebrill 2012 Lansiais y syniad o ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg ymhellach, ac ar raddfa fawr
- 30 Mehefin 2012 Rhys Wynne a minnau'n trefnu'r Golygathon Cymraeg cyntaf yn y Llyfrgell Ganolog, Caerdydd.
- 9 Gorffennaf 2012 cafwyd cyfarfod rhwng y Gweinidog dros Dechnoleg Gwybodaeth Llywodraeth Cymru,[1] sef Leyton Andrews, a Robin Owain, gyda'r ddau yn cytuno ar saith pwynt a godwyd, gan gynnwys rhyddhau cynnwys cyrff cyhoeddus ar drwydded agored
- 12 Medi 2012 cyhoeddais Gynllun Datblygu Wicipedia, gyda saith maes i'w datblygu, gan gynnwys marchnata'r Wicipedia, a rhyddhau ffeiliau Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol ayb
- 21 Rhagfyr 2012 y bot cyntaf (Bot-Twm Crys) ar cy-wici yn creu dros fil o ailgyfeiriadau o enwau gwyddonol i enwau Cymraeg gwyfynod a gloynnod byw
- Rhagfyr 2012 Trefnais dau gyfarfod: y cyntaf gyda golygyddion y Gwyddoniadur Cymreig a Gwasg y Brifysgol ac yn ail gydag Andrew Green, Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol gan wneud cais i'r Llyfrgell rhyddhau lluniau a gwybodaeth a chyflogi Wicipediwr llawn amser. Y cyfarfod cyntaf yn negayddol, ond yr ail yn llwyddiannus!
- Rhagfyr 2013 cyd-drefnais 'WiciAddysg' ym Mae Caerdd a braf oedd clywed Gareth Morlais ar ran Llywodraeth Cymru yn siarad mor flaengar am gynnwys agored ac am cy-wici
- Ionawr 2014 penodwyd Aled Powell yn Drefnydd Hyfforddi Wici Cymru
- Ionawr 2014 penodwyd Marc Haynes yn Wicipediwr Preswyl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Ionawr 2015 penododd Jason Evans yn WP y Llyfrgell Genedlaethol - ac mae dal yno'n llawn amser
- Haf 2016 Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Comin
- Hydref 2016 9,500 o erthyglau ar adar byw, gan godi nifer yr erthyglau i 80,000.
- Hydref 2016 13000 o luniau wedu huwchlwytho i Comin gan y LGC a 125 miliwn o bobl wedi'u gweld.
Mi fyddai'n cymharu Wicipedia'n aml i nyth morgrug Amasonaidd, a braf ei weld yn tyfu. Brafiach yw gweld newid ym meddyliau pobl, lle ceir meddwl rhydd annibynol heddiw, a'r syniad o rannu'n bwysicach na'r hyn a fu yng Nghymru cyhyd - cyhoeddi er mwyn arian. Os mai dymuniad y person yw gwneud arian, yna awgrymaf eu bod yn newid eu swydd a bod yn fancar neu'n llawfeddyg. Ond os mai'r rheswm dros olygu ydyw fod y llenor yn dymuno rhannu ei waith, neu drosglwyddo gwybodaeth neu argyhoeddi eraill, yna wici ydy'r lle, neu wefan agored arall, sy'n rhydd ac am ddim. Dwn i ddim pwy yw llawer o'r morgrug hyn, gan ein bod yn aml yn defnyddio ffug enw. Mae llawer wedi gwneud argraff arna i, yn bennaf, 'Anatiomaros'. Petha bach ydy morgrug ond mae eu gwaith diflino wedi creu'r storfa gwybodaeth Cymraeg mwyaf a fu erioed, a'r fynedfa iddo am ddim! Gwnewch y pethau bychan - ar ei orau!
Rydym ar drothwyd gweld datblygiadau'r 6 mlynedd diwethaf yn dwyn ffrwyth; bu'n waith caled, diddiolch, pan oedd llawer o'n pobl yn anwybodus am bethau digidol, yn draddodiadol gul hefyd. Anghofia i byth sgwrsio gyda Wyn Roberts (Llansannan ers talwm) am lyfrau ar Radio Cymru, minnau'n sôn am Rebel ar y We, a'i fod mewn gwirionedd yr e-lyfr cyntaf yn Gymraeg. Wedi deg munud o sgwrsio, dyma rhyw hen wag o Ben Llŷn yn ffonio ac yn dweud "Peidiwch a siarad drwy'ch het, ddyn, wrth gwrs na fedrwch chi ddim tynnu llyfr i lawr gwifren ffôn. 2010 oedd hynny, nid 1910.
Mi ddyfynaf fy nhad i orffen, dyfyniad allan o lyfr Aled Eurig, Tân a Daniwyd (Argr. W. Walters a'i Fab, 1976):
- Hyn yw angen mawr Cymru heddiw: gweithwyr caled, gweithwyr cyson, gweithwyr adeiladol, gweithwyr creadigol, gweithwyr positif - gydag argyhoeddiad dwfn o werth yr unigolyn, a chariad tuag at dyd-ddyn yn ogystal â thuag at Gymru.
Ymlaen!
- WMUK a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn cyflogi Wicipediwr Preswyl drwy gyfrwng y Gaeleg
- Blog gan John Lubbock a Robin Owain 11 Hydref 2016
Mae Wikimedia UK a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban newydd hysbysebu am Wicipediwr Preswyl llawn amser i hyrwyddo Wicipedia Gaeleg (neu'r Uicipeid).
Yn dilyn cais llwyddianus i'r Bòrd na Gàidhlig, mae Adran Aeleg Llywodraeth yr Alban yn bwriadu pendoi Wicipediwr (benyw neu wryw) a fydd yn gweithio ledled yr Alban yn hyrwyddo Gaeleg drwy hyfforddi pobl i greu neu wella erthyglau ar Uicipeid, y Wicipedia Aeleg. Disgwylir i'r Wicipediwr llwyddiannus hyfforddi pobl yn Ynysoedd Allanol Heledd, yr Ucheldir a chanol yr Alban. Gall weithio o unrhyw le o fewn yr Alban, neu o swyddfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, pe dymunent.
Maer hyn yn dilyn nifer o swyddi tebyg yng Nghymru ac yng ngweddill gwledydd Prydain gan gynnwys Marc a fu'n gweithio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Jason sydd ar ei ail flwyddyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Penodwyd y Wicipediwr Preswyl cyntaf yn yr Alban yn 2013 i weithio o fewn y Llyfrgell Genedlaethol a chrewyd cymuned dda o olygyddion yno yng Nghaeredin. Dilynwyd hyn gan swydd ym Mhrifysgol Caeredin, ac mae Ewan yn parhau yn y swydd honno. Roedd hyn, fel yng Nghymru, yn normaleiddio'r gwaith o roi cynnwys a gwybodaeth ar drwyddedi agored mewn sefydliadau cenedlaethol. Mae Wicipedia ar gael mewn tua 290 o ieithoedd.
- Dim erthygl? Dim problem!
- Creu Daleni Data ar y Wicipedia Cymraeg
- Blog gan Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r Wicipedia Gymraeg eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl gyda dros 70,000 o erthyglau. Yn fras dyna un erthygl i bob wyth Siaradwr Cymraeg. Ond yn awr mae myfyriwr yn yr Almaen wedi datblygu teclyn newydd a all lenwi'r bylchau ar Wicipedia drwy fenthyg data o brosiect arall gan Wicimedia, sef Wicidata.
Nod y nodwedd newydd yw cynyddu mynediad agored ac am ddim i wybodaeth ar Wicipedia. Mae’r 'Ddalen Data' (Article Placeholder yn Saesneg) yn casglu data, delweddau a chyfeiriadau o Wicidata a'u harddangos yn arddull arferol Wicipedia, gan ei gwneud yn hawdd eu darllen.
Ar hyn o bryd mae'r Ddalen Data yn cael ei threialu ar nifer fechan o Wicipedias, ac ar ôl ymgynghori â'r gymuned Wicipedia Cymraeg, cytunwyd y byddem yn profi'r teclyn newydd yma ar cy-wici.
Y fantais fwyaf amlwg o’r ddalen data yw'r mynediad hawdd at wybodaeth sydd heb ei chynnwys ar Wicipedia eto, a gyda 20 miliwn o eitemau ar Wicidata, nid yw'r wybodaeth yn brin! Dylai hyn yn ei dro annog golygyddion i greu erthyglau newydd gan ddefnyddio'r wybodaeth a gyflwynir yn y Ddalen Data.
Ond, efallai mai'r agwedd fwyaf gyffrous o ddefnyddio Wicidata i gynhyrchu cynnwys Wicipedia, yw bod Wicidata yn siarad cannoedd o ieithoedd (dros 288), gan gynnwys y Gymraeg! Golyga hyn bod llawer o’r tudalennau mae'r meddalwedd yn eu creu ar y Wicipedia Cymraeg yn ymddangos yn uniaith Gymraeg.
Os nad yw'r eitem ar Wicidata wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg eto, bydd y nodwedd yn ymddangos yn Saesneg, fodd bynnag, mae'n awr yn haws nag erioed i gyrraedd yr eitem Wikidata, trwy’r Ddalen Data, ac ychwanegu cyfieithiad Cymraeg (gweler y llun isod). Ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau gyda siaradwyr Cymraeg er mwyn cyfieithu rhagor o eitemau Wicidata i'r Gymraeg.
Trwy ymgorffori’r nodwedd hon i mewn i'r Wicipedia Cymraeg mae gobaith y bydd gan siaradwyr Cymraeg brofiad cyfoethocach o'r wefan ac y bydd yn annog mwy o olygyddion i greu cynnwys ac ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i Wicidata, sydd yn atgyfnerthu lle'r iaith Gymraeg yn y deyrnas ddigidol.
- Defnyddio Lluniau Comin yng Ngeiriadur Llên Natur
- Blog gan Robin Owain; Awst 2016
Yn ddiweddar cafwyd partneriaeth ffrwythlon iawn rhwng tri o brosiectau Wicimedia: [2], Comin Wicimedia a'r Wicipedia Cymraeg a Llên Natur (adran ddigidol Cymdeithas Edward Llwyd) a'u gwefeistr, sef Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.
Y sialens a osodais i Duncan Brown, congl-faen Llên Natur, oedd troi eu geiriaduron rhywogaethau (testun yn unig) yn Fywiadur lliwgar, llawn lluniau.
Wedi tri mis o godio a cheisiau impio gwahanol dechnolegau llwyddwyd i gael dros 8,000 o rai o ffotograffau gorau'r byd. Drwy ddyfalbarhad ac arweiniad Duncan Brown a'i dîm o naturiaethwyr gwelwyd casgliad fwya'r byd o ffotograffau (Comin) yn ymddangos o fewn y Bywiadur. Gwnaed hyn yn bosib drwy Wicidata, a'i lu o ddynodwyr unigryw: un o'r rhain yw'r 'ffotograff gorau' o'r rhywogaeth. Yn hytrach na mynd ati gyda'r llaw a'r llygad, roedd Wicidata'n ei gwneud hi'n bosibl i Dewi o'r Uned Technolegau Iaith, ar ran Llên Natur, dynnu'r llif delweddau i fewn i'w gwefan. Gan fod lluniau gwell yn cael eu huwchlwytho'n ddyddiol ar Comin, roedd hyn hefyd yn caniatau otomeiddio'n ddyddiol y broses o uwchlwytho lluniau newydd, gwahanol ayb.
Un o ffotograffwyr byd natur gorau Cymru yw'r cyn-brifathro Alun Williams ac mae wedi uwchlwytho cannoedd o luniau i wefan Llên Natur dros y blynyddoedd. Yn dilyn lansio'r Bywiadur yn Haf 2016 roedd rhai o luniau Alun wedi derbyn gwobrau 'Ffotograffau o Safon' gan gymuned Comin Wicimedia. Mae ei luniau bellach i'w gweld o fewn erthyglau Wicipedia (mewn dros 280 o ieithoedd) yn ogystal â'r Bywiadur. Dyma rai ohonynt:
Fel y mae Wicidata'n allweddol i dynnu'r lluniau o Comin i wefan Llên Natur, felly hefyd gyda'r Wicipedia Cymraeg. Man cychwyn y gwaith oedd uwchlwytho enwau Cymraeg safonol i Wicidata - gan gynnwys y 10,000 o enwau adar. Drwy ddefnyddio côd syml, mae'r Nodyn (neu 'demplad') Rhestr Wicidata yn rhwyddhau'r broses o greu rhestrau otomatig o fewn Wicipedia Cymraeg hefyd. Mae'r erthygl Rhestr o ferched yn y Bywgraffiadur er enghraifft yn crynhoi'n daclus ac yn ddyddiol yr erthyglau ar y merched hynny - ychydig dros gant ohonyn nhw.
Eisioes mae gennym dros gant o'r tablau hyn, a gan fod y wybodaeth yn cael ei diweddaru'n otomatig, mae hefyd yn gyfoes ac yn fwy cywir na'r hen ddull llaw a llygad.
Diweddaf gyda rhybudd. Mae dod a gwybodaeth fel hyn yn otomatig o Wicidata'n beth da, cyn belled a'n bod fel cymuned o olygyddion Cymreig hefyd yn medru rheoli'r llif honno! Gwyddom am y frwydr barhaus ar y Wicipedia Saesneg i nodi mai Cymro neu Gymraes yw hwn a'r llall; mae nhw'n dal i ddweud mai Sais yw Tom Pryce, a Jac yr Undeb sydd wrth ei ochr heddiw: Awst 2016. Mae'n wych medru troi tapiau'r bath arno; mae yr un mor hanfodol fod y dŵr sy'n llifo drwyddy'r tapiau mor lân a phosibl. A chadwn yr hawl i ddiffodd y tapiau hyd yn oed. "Unigryw, unigryw!" chwedl Carl Morris.
- Gwybodaeth agored i bawb
Dywedodd Hugh Gusterson, Llywydd presennol Cymdeithas Ethnoleg America, ‘I get paid nothing directly for the most difficult, time-consuming writing I do: peer-reviewed academic articles. In fact a journal that owned the copyright to one of my articles made me pay $400 for permission to reprint my own writing in a book of my essays.’
Yn wir, dyna oedd y drefn gyffredinol drwy'r byd, a byddai'r gwaith adolygu'n cael ei wneud fel rhan o waith a chyflog arferol yr academydd. Dim ceiniog yn fwy, a hyn oedd y norm. A doedd y cyhoeddiadau academaidd ddim chwaith yn gwneud fawr o elw gan na chodid lawer am fynediad i'r cynnwys, ond yn y blynyddoedd hyn mae pethau wedi newid gan fod cwmniau gwneud elw wedi cymryd drosodd y gwaith o'u cyhoeddi, cwmniau fel Elsevier, Taylor & Francis, a Wiley-Blackwell. Mae'r cwmniau hyn yn gwneud elw mawr gan eu bod yn codi crocbris ar fyfyrwyr ac academyddion eraill am fynediad i'r gwaith. Derbyniodd Erik Engstrom o gwmni Elsevier, er enghraifft, £16.18m y llynedd - ef oedd y prif weithredwr a gafodd y cyflog uchaf o holl gwmniau'r FTSE100 y llynedd.
[darllenwch ragor o'r erthygl wreiddiol yma...]
- Deffro'r Ddraig
- Blog gan John Lubbock a Robin Owain
Ar y Wikipedia Saesneg, mae'r prosiect WikiProject Wales newydd gwbwlhau prosiect chwyldroadol i godi egin erthyglau'n erthyglau o gig a gwaed! Ar en-wici (y wici Saesneg) a nifer o ieithoedd eraill, ceir system safoni erthyglau gyda 'Statws Erthygl Dda' yn cael ei rhoi i'r erthyglau gorau. Bwriad y gystadleuaeth oedd cymell golygyddion i ehangu a gwella erthyglau byr (neu 'egin erthyglau'). Law yn llaw, fe gynhaliwyd cystadleuaeth ar y cy-wici (ie - Wicipedia Cymraeg!) a bu saith o awduron wrthi'n gwella a chreu erthyglau o'r newydd.
Wrth gwrs, mae na lawer mwy yn siarad Saesneg nag sydd yn siarad Cymraeg, ac roedd y nifer o erthyglau a gafodd eu gwella ar y Wikipedia Saesneg lawer iawn mwy niferus - 1065 o erthyglau am Gymru! Dyma'r ddolen at yr erthyglau hynny. Rhannwyd y brif wobr rhwng 'Cwmhiraeth' a 'Sturmvogel 66' a daeth Deb - sydd hefyd yn golygu ar y Wicipedia Cymraeg - yn seithfed! Paraodd y gystadleuaeth drwy fis Ebrill 2016.
Trefnydd Deffro'r Ddraig oedd Dr. Blofeld, ac roedd na goblyn o waith trefnu! Rhoddwyd £250 ar gyfer y gwobrau gan Wicimedia UK. Dyma rai o'r erthyglau newydd a grewyd ar en-wici: Santes Callwen, Lleision ap Thomas, Hen Farchnad Llanidloes, Amaethyddiaeth yng Nghymru, Castell Picton, Sarah Jacob ac erthygl ar y crempog Cymreig! Ar cy-wici, cafwyd erthyglau am: Ffordd Farrar a Kirsty Wade gan Blogdroed, Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Dafydd Parri gan DafyddT, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd a Ffwl-y-mwn gan HamII, Rose Davies a John Cyrlas Williams gan John Jones a Senedd-dy Owain Glyn Dŵr, Machynlleth gan Llywelyn2000.
Cafwyd golygathon hefyd yn Aberystwyth, yn sbarc i'r cyfan, a deffrwyd y ddraig drwy gweddill y mis! Sicrhewch nad eith hi'n ôl i gysgu, drwy olygu erthyglau Cymraeg neu am Gymru!
- BBC Cymru'n agor ei drysau!
- Blog gan Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru
- 29 Chwefror 2016
Dewi Sant ar ffenestr o'r 1930au.
Pan gyhoeddais i 150 o fy ngherddi yn rhydd, yn agored ac am ddim i bawb, ar y we yn Rhagfyr 1996, ychydig a gredais i y byddai'n cymryd 20 mlynedd cyn bod sefydliadau fel y BBC yn gwneud yr un peth. Mae rhai sefydliadau, fel y Coleg Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol, wedi bod yn hynod o flaenllaw, mae eraill fel y BBC yn troedio'n ofalus ac ambell un fel Cadw'n eiddugeddus iawn o'u ffotograffau a'u gweithiau eraill, ac yn mynnu eu cadw ar drwydded caeedig Crown Copyright!
Mewn ateb i Wil Tomos, gohebydd Y Cymro ar y pryd (gweler Y Cymro, 12 Chwefror 1997) dywedais: "Mae na lawer o bobol wedi fy annog i fynd ati i gyhoeddi llyfr-hen-ffasiwn ar bapur, ond roeddwn yn awyddus iawn i fynd ati i'w gyhoeddi ar y dechnoleg fwyaf modern posib gan roi copi i bob person yn y byd am ddim!" Yr un wythnos cyhoeddodd Golwg: "Ac wrth lansio Rebel ar y We fe rybuddiodd Robin bod yn rhaid i gyhoeddwyr Cymraeg symud ymlaen gyda'r oes neu wynebu'r ffaith y bydd yr iaith yn cael ei gadael ar silff lychlyd rhyw hen lyfrgell ac yn marw." Mae'r wefan yn dal yno, yn y dyfnderoedd, ers Rhagfyr 1996.
Ar y naill law, 'da ni wedi symud ymlaen ers hynny: mae na dros fil o e-lyfrau wedi'u chyhoeddi ers y cyntaf hwnnw yn Rhagfyr 1996, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn prysu uwchlwytho 120,000 o'u lluniau i Gomin Wicimedia - ar drwydded agored. Ar y llaw arall, yr unig ffordd y cewch afael ar un o dros ddwy filiwn o luniau Cadw yw drwy dalu £40 amdano! Mae'r syniad o 'berchnogaeth' yn dal i fodoli, nid yn unig gan Cadw, ond gan ein llenorion, sy'n credu y gwnant eu ffortiwn rhyw ddydd gyda'u henglyn neu gyfrol o storiau byrion! Dydy'r syniad o rannu, o gyfranu am ddim, ac o drosglwyddo gwybodaeth a llenyddiaeth a llun, ddim cweit wedi eu cyrraedd. Ond mae'r newid yn dod.
Yng ngwanwyn 2015 rhyddhaodd Cymru Fyw, gwefan y BBC, swp o erthyglau ar nifer o grwpiau cerddorol, bandiau ac unigolion i'w rhoi ar Wicipedia; roedd hyn yn gam anferthol iddynt, ac ni stopiodd y byd a throi ar ei hechel! Heddiw, mae Cymru Fyw yn rhyddhau gêm bychan i ddathlu Gŵyl Ddewi, gêm sy'n defnyddio cyfesurynnau / lleoliad seintiau a gwybodaeth o Wicipedia (Cymraeg a Saesneg). Datblygiad diddorol ac mae'n rhaid curo eu cefnau am hyn! Gweler: Beth fyddai'ch enw sanctaidd? Edrychwn ymlaen yn arw i weld BBC Cymru yn datgloi ychwaneg o ddrysau ac yn rhyddhau ychwaneg o'u cynnwys. Trethi pobl Cymru a dalodd am holl stwff y BBC yn y lle cyntaf, a gwell eu rhannu'n agored i bawb, na'u gwarchod mewn cabined dur rhyw archifdy oer. Ymlaen rwan!
- Cannoedd o erthyglau newydd wedi'u creu, miloedd o luniau wedi'u rhannu a milynau o hits ac ymweliadau ar Wicipedia!
- Blog gan Jason Evans, Wicipediwr llawn-amser yn y Llyfrgell Genedlaethol
Aeth blwyddyn heibio ers i mi ddechrau fy siwrne drwy fyd Wicipedia. Roedd fy ngorchwyl gwaith yn ddigon syml - annog pobl i olygu, ysbrydoli'r gymuned a chreu ethos drws agored i weithiau o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda 18 miliwn o ymweliadau i dudalennau pob dydd, ymddengys mai Wicipedia yw'r prif Siop-Un-Alwad - am wybodaeth o bob math dan haul, ac mae llawer o sefydliadau ledled y byd wedi partneru gyda'r cawr o wyddoniadur hwn, er mwyn rhannu eu gwybodaeth a'u casgliadau wrth iddynt dyfu. Nod Llyfrgell y Genedl yw darparu gwybodaeth i bawb, ac mae Wicipedia yn un o'r llwybrau a ddefnyddir i wneud hynny.
Gwella Wicipedia
Do, bu gan Wicipedia ei beirniaid, ac mae ei pholisi o wahodd unrhyw berson i gyfrannu'n golygu fod gan rai erthyglau fân wendidau. I ateb y broblem hon, ac er mwyn i Gymru gael ei chynrychioli yn y modd gorau ar lwyfan Wicipedia, yn llygad y byd, trefnwyd nifer o ddigwyddiadau neu 'olygathonau' gyda'r bwriad o hyfforddi golygyddion newydd Wicipedia ar nifer o bynciau, o Gyfraith yn yr Oesoedd Canol i Gwpan Rygbi'r Byd. Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi troi eu llaw at olygu, mewn digwyddiadau a drefnais, ac mae'r offer newydd i symlhau'r broses o olygu, sef 'Y Golygydd Gweladwy' (Visual Editor), wedi ei gwneud yn haws.
Mae staff a gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur ar brosiectau sy'n berthnasol i Wicipedia; ceir 6.5 miliwn o lyfrau o fewn muriau'r Llyfrgell, ac felly, mae na fwy na digon o ddewis!
Dros y flwyddyn diwethaf daeth yn glir fod golygathonau'n ffyrdd da i ymrwymo a meithrin y gymuned. Mae hefyd yn ffordd dda o gyflwyno'r Llyfrgell i'r gymuned ehangach, ei chasgliadau a'i hetifeddiaeth mewn modd hyblyg a thawel.
[darllenwch ragor o'r erthygl yma...]