Expert outreach/Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol: Difference between revisions
| Line 47: | Line 47: | ||
== Blogiau== | == Blogiau== | ||
* [http://outreach.wikimedia.org/wiki/GLAM/Newsletter/January_2015/Contents/UK_report Glam Newsletter "Wales" Gan Robin Owain. Ionawr 2015] | |||
* [http://www.llgc.org.uk/blog/?p=9174&lang=cy Blog y LLGC - "Wicipediwr Preswyl - Sut fydd o'n gweithio?" gan Jason Evans. 20 Ionawr 2015.] | * [http://www.llgc.org.uk/blog/?p=9174&lang=cy Blog y LLGC - "Wicipediwr Preswyl - Sut fydd o'n gweithio?" gan Jason Evans. 20 Ionawr 2015.] | ||
* [http://www.llgc.org.uk/blog/?p=9102&lang=cy Blog y LLGC - "Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol" Gan LLGC. 15 Ionawr 2015.] | * [http://www.llgc.org.uk/blog/?p=9102&lang=cy Blog y LLGC - "Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol" Gan LLGC. 15 Ionawr 2015.] | ||
Revision as of 10:11, 14 February 2015
O'r 19eg o Ionawr 2015, mae Wikimedia UK a'r Llyfrgell Genedlaethol yn cefnogi ar y cyd prosiect sy'n datblygu ymhellach adnoddau, ffeiliau digidol a mathau eraill o wybodaeth ar drwydded agored. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio ehangu a gwella'r mynediad i'r wybodaeth a gedwir gan y Llyfrgell. Bydd y penodiad o Wicipediwr preswyl yn canolbwyntio ar y gwaith hwn a hefyd yn hwyluso rhaglen o ‘Editathons’ a gweithdai staff. Mae'r prosiect hwn yn gorgyffwrdd yr ardaloedd partneriaethau diwylliannol a’r allgymorth arbenigol o waith Wikimedia UK. Bwriad y dudalen hon yw safle ar gyfer trafodaeth, ac i ddarparu gwybodaeth am brosiectau parhaus a phrosiectau bosib am y dyfodol, a drefnwyd fel rhan o'r cydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wikimedia. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ddigwyddiadau a drefnwyd gan Wikimedia yn y LLGC, neu eisiau cyfrannu at gymuned Wikimedia yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â'r Wicipediwr Preswyl Jason Evans
Nodau ac amcanion
Bydd y cyfnod preswyl yn rhedeg am flwyddyn gyda'r nod o adeiladu pontydd parhaol rhwng y Llyfrgell a Wicipedia. Bydd y Wicipediwr preswyl yn gweithio'n agos gyda staff y Llyfrgell i hwyluso rhyddhau casgliadau digidol dan drwyddedau agored i'w defnyddio ar Wicipedia a mannau eraill. Yn ogystal, bydd ffocws ar wella cynnwys Wicipedia drwy gynnal cyfres o ‘Olygothonau’ (Editathons). Hefyd bydd cyfres o weithdai ar ddefnyddio a golygu Wicipedia ar gynnig i bob aelod o staff.
Trwy gefnogi a chyfranogi yn natblygiad adnodd sydd â phroffil mor uchel, bydd y fenter hon yn cyfrannu at gyflawni ein hamcan o ddarparu 'Gwybodaeth i Bawb' ac yn ei dro yn denu pobl yn ôl at wasanaethau a chasgliadau’r Llyfrgell.
Gweithgareddau
Wrth i'r Preswylio mynd yn ei flaen bydd log o brosiectau neu ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu, cyfraniadau sydd ar y gweill, a chyfraniadau sydd wedi'u nodi ar gyfer y dyfodol, yn cael ei ddiweddaru yma. Rwy’n annog pob defnyddiwr Wikimedia, yn benodol y rhai yng Nghymru, i gysylltu â mi unrhyw bryd gydag awgrymiadau neu gynigion i helpu!
- Mae rhestr o dros 5000 o erthyglau Gymraeg efo Geotags, ond heb ddelweddau, wedi cael ei greu yma. Y nod yw defnyddio'r rhestr hon wrth hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i olygu ac ychwanegu delweddau at Wici. Hefyd mae yna gyfle i gynnal digwyddiad penodol i ychwanegu delweddau i’r erthyglau hyn. Chwefror 2, 2015
Cefndir
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn ôl papur a chyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru [1], mae’r casgliadau yn cynnwys
- 6 miliwn llyfir, cylchgrawn, papur newydd a deunydd print arall
- 25,000 llawysgrif (yr hynaf yn dyddio o 113 AD, ac yn cynnwys y llawysgrifau cynharach yn y Gymraeg)
- 2,500 casgliadau archifol
- 1 Miliwn mapiau
- 40,000 Lluniau
- 800,000 Ffotograffau
- 5.5miliwn troedfedd o ffilm
- 250,000 oriau of fideo
- 200,000 awr of recordiadau sain
Y Wicipediwr Preswyl
Wicipediwr (neu Wicipediwr) Preswyl yw Wicipediwr sy'n gweithio yn fewnol mewn sefydliad. Yn sylfaenol mae’r rôl yn ymwneud â galluogi’r sefydliad a'i aelodau i barhau perthynas gynhyrchiol gyda'r gwyddoniadur a'i chymuned ar ôl i'r cyfnod Preswylio ddod i ben. Y nod yw hyrwyddo dealltwriaeth o brosiectau Wikimedia ymysg staff y Llyfrgell, yn ogystal â sefydliadau GLAM yng Nghymru yn fwy cyffredinol, drwy drefnu gweithdai a digwyddiadau. Mae Wicipediwr preswyl hefyd yn gweithio gyda staff i ddigideiddio, crynhoi, a threfnu adnoddau y gellir eu rhannu gyda'r gymuned Wikimedia
Planning and reporting
- Adroddiadau misol
- Ionawr 2015
Sylw yn y Wasg
- 21 Ionawr – Cyfweliad BBC Radio Cymru (dim linc)
- 21 Ionawr - "Wikipedian takes up residence at The National Library", Cambrian News 21/Jan/2015 (dim linc)
Blogiau
- Glam Newsletter "Wales" Gan Robin Owain. Ionawr 2015
- Blog y LLGC - "Wicipediwr Preswyl - Sut fydd o'n gweithio?" gan Jason Evans. 20 Ionawr 2015.
- Blog y LLGC - "Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol" Gan LLGC. 15 Ionawr 2015.
Cyswllt
Cysylltwch efo Jason Evans drwy e-bost jje@llgc.org.uk neu gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs Jason.nlw (talk) 09:57, 27 January 2015 (GMT)
