Template:Main Page cy: Difference between revisions

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
(center perhaps?)
(Martin blog)
Line 14: Line 14:
| style="color:#000;" | <div id="mp-tfa mf-tfa"><span class="plainlinks">
| style="color:#000;" | <div id="mp-tfa mf-tfa"><span class="plainlinks">
{{{blog post|}}}</span>
{{{blog post|}}}</span>
;Jisc a Wikimedia UK yn codi pont rhwng academia a Wicipedia
27 Mehefin 2013 gan Stevie Benton
[[File:Martin_Poulter,_WMUK_board_meeting,_August_2011.jpg|200px|thumb|right|alt=Dr Martin Poulter|Dr Martin Poulter]]
Mae [http://www.jisc.ac.uk/ Jisc] a Wicimedia UK yn cydweithio ar brosiect sy'n dod a'r byd academaidd a Wicipedia yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr, addysgwyr a'r cyhoedd i gyfrannu tuag at wybodaeth rhydd, am ddim ac sy'n agored i bawb.
Mae'r elusen addysgol Jisc yn arbenigwr mewn technoleg digidol o fewn y byd addysg ac ymchwil, ac mae nhw'n cefnogi'r prosiect hwn er mwyn ehangu'r gynulleidfa a wneith fanteisio ar y gwaith blaenllaw ac avant-garde  mae'n ei wneud. Mae'r gwaith yma'n cynnwys adnoddau agored addysgol, casgliadau o waith ymchwil arlein a chasgliadau eraill (e.e. papurau newydd wedi'u digideiddio). Mae Wikimedia UK yn elusen sy'n cefnogi Wicipedia Cymraeg a phob un o'r 280 iaith arall a'i chwaer brosiectau megis [http://commons.wikimedia.org/wiki/Hafan Comin], [http://cy.wiktionary.org/wiki/Hafan Wiciadur] a [http://cy.wikisource.org/wiki/Hafan Wicidestun]. Mae'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn llyfrgelloedd, prifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau eraill er mwyn gwella'r wybodaeth sydd ar y prosiectau hyn ac er mwyn ehangu hygyrchedd y wybodaeth er lles pawb.
Mae'r prosiect hwn wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Briste. Bydd yn hyfforddi arbenigwyr yn eu gweithle ac yn cynnal ambell "olygathon" a fydd yn agored i'r cyhoedd. Penodwyd Dr Martin Poulter yn Llysgennad i'r prosiect a bydd yn gyfrifol am bontio rhwng y ddwy gymuned: Jisc a Wikimedia UK. Penodwyd Dr Toni Sant ychydig yn ôl yn gyfrifol am yr adran addysg o fewn WMUK, adran sy'n canolbwyntio ar addysg drydyddol. Bydd gwaith Martin yn cynnwys clustnodi meysydd i'w datblygu yn ogystal a threfnu [[EduWiki Conference 2013|Cynhadledd EduWiki ym Mae Caerdydd]] yn Nhachwedd 2013.
:'''''<span class="plainlinks">[[http://blog.wikimedia.org.uk/ Darllenwch ragor yma]</span>'''''


;Cynhadledd WMUK – Mediawiki ar gyfer OER a ''Learning Analytics''
;Cynhadledd WMUK – Mediawiki ar gyfer OER a ''Learning Analytics''

Revision as of 09:37, 28 June 2013

Cefnogwn Wybodaeth Rhydd ac Agored

Newyddion Diweddaraf

Jisc a Wikimedia UK yn codi pont rhwng academia a Wicipedia

27 Mehefin 2013 gan Stevie Benton

Dr Martin Poulter
Dr Martin Poulter

Mae Jisc a Wicimedia UK yn cydweithio ar brosiect sy'n dod a'r byd academaidd a Wicipedia yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr, addysgwyr a'r cyhoedd i gyfrannu tuag at wybodaeth rhydd, am ddim ac sy'n agored i bawb.

Mae'r elusen addysgol Jisc yn arbenigwr mewn technoleg digidol o fewn y byd addysg ac ymchwil, ac mae nhw'n cefnogi'r prosiect hwn er mwyn ehangu'r gynulleidfa a wneith fanteisio ar y gwaith blaenllaw ac avant-garde mae'n ei wneud. Mae'r gwaith yma'n cynnwys adnoddau agored addysgol, casgliadau o waith ymchwil arlein a chasgliadau eraill (e.e. papurau newydd wedi'u digideiddio). Mae Wikimedia UK yn elusen sy'n cefnogi Wicipedia Cymraeg a phob un o'r 280 iaith arall a'i chwaer brosiectau megis Comin, Wiciadur a Wicidestun. Mae'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn llyfrgelloedd, prifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau eraill er mwyn gwella'r wybodaeth sydd ar y prosiectau hyn ac er mwyn ehangu hygyrchedd y wybodaeth er lles pawb.

Mae'r prosiect hwn wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Briste. Bydd yn hyfforddi arbenigwyr yn eu gweithle ac yn cynnal ambell "olygathon" a fydd yn agored i'r cyhoedd. Penodwyd Dr Martin Poulter yn Llysgennad i'r prosiect a bydd yn gyfrifol am bontio rhwng y ddwy gymuned: Jisc a Wikimedia UK. Penodwyd Dr Toni Sant ychydig yn ôl yn gyfrifol am yr adran addysg o fewn WMUK, adran sy'n canolbwyntio ar addysg drydyddol. Bydd gwaith Martin yn cynnwys clustnodi meysydd i'w datblygu yn ogystal a threfnu Cynhadledd EduWiki ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2013.

[Darllenwch ragor yma
Cynhadledd WMUK – Mediawiki ar gyfer OER a Learning Analytics

Cyhoeddwyd y testun gwreiddiol a welir isod gan Simon Knight, yma.

Ddydd Sadwrn, yn Lincoln, siaradais yng Nghynhadledd Wikimedia UK am y defnydd o Mediwiki ar gyfer Adnoddau Dysgu Agored (OER, neu Open educational resources) a Learning Analytics; mae'r sleidiau a gyflwynais i'w cael yma a bydd fideo o'r cyflwyniad ar lein cyn hir.

Mi wnes i gyfarfod grwp o bobl yn EduWiki 2012 (a rhennais ychydig o fy syniadau yma: EduWiki 2012), ceisiais adeiladu fy sgwrs ar y gwaith a wnes yng Nghaergrawnt ar y prosiect ORBIT – creu llwyfan o adnoddau dysgu agored ar gyfer dysgu rhyngweithiol yn enwedig y pynciau STEM a gweithiau eraill sy'n berthnasol i fy ngwaith PhD.

Darllenwch ragor yma


Wythnos y Gwirfoddolwr - llythyr gan ein Prif Weithredwr
Sgwennwyd y cofnod blog canlynol gan Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK

Mae 1-7 Mehefin yn Ddiwrnod y Gwirfoddolwr yn y DU. Pa well ffordd i'n hatgoffa fod prosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, yn cael eu sgwennu'n gyfangwbwl gan wirfoddolwyr?

Ers dros 12 mlynedd mae criw enfawr o bobl, o bob cefndir dan haul, ac o bob oedran, barn, a diddordebau, wedi dod at ei gilydd i greu y cefnfor eang yma o wybodaeth rhydd, gan ei rannu gydag eraill gan eu bont yn credu fod hynny'n beth da a gwerth chweil. Ac mae nhw'n parhau i wneud hynny.

Carem gynnig ein diolch di-ben-draw a chynhesaf i bawb sy'n gwirfoddoli i ryddhau a datblygu'r cefnfor hwn o wybodaeth, am eu hynni, a'u hamser i hyrwyddo'r cysyniad hwn o wybodaeth rhydd ac am ddim i bawb. Waeth pa ran o'r gwaith rydych yn ei wneud: cywiro camsillafu, golygu'r cynnwys, sgwennu a datblygu erthyglau, hyfforddi golygyddion newydd, gweithio gyda'r adran GLAM neu addysg neu hyd yn oed gwneud paned o de - can diolch i chi am wneud Wikimedia'n bosib. A dyma pam yr es ati i ofyn i fy nghydweithwyr sut roedden nhw'n teimlo ynglŷn â gweithio gyda gwirfoddolwyr Wikimedia...

Darllenwch ragor yma

Ynglŷn â Wikimedia UK

Wikimedia UK (neu Wicifryngau DU) ydy siapter Wikimedia ar gyfer gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon. Ein hamcan a'n gwaith yw cynorthwyo i gasglu, datblygu a lledaenu gwybodaeth trwyddedig a chynnwys addysgol, diwylliannol a hanesyddol, a hynny am ddim. Gwnawn hyn drwy ddod â chymunedau Wikimedia yr ynysoedd hyn at ei gilydd a thrwy adeiladu cysylltiadau gyda sefydliadau diwylliannol, prifysgolion, elusennau a chyrff eraill. Cynrychiolwn, hefyd, ein cymuned ar Sefydliad Wikimedia a'r mudiad yn fyd-eang.

Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth, trowch atom! Mae'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn gyfarfodydd cyhoeddus, neu ymunwch â ni am ddim ond £5!

Mae Wikimedia UK yn elusen gofrestredig. Cawn ein hariannu'n gyfangwbwl gan gyfraniadau gwirfoddol, yn bennaf drwy gynllun codi arian Wikimedia. Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn fudiad cwbwl ar wahân i Sefydliad Wikimedia, ac nad oes gennym reolaeth ar Wicipedia na'r un o chwiorydd neu brosiectau eraill y sefydliad hwn.

Cysylltu

Ymholiadau: infoatwikimedia.org.uk
Cyfryngau: pressatwikimedia.org.uk

Gallwch ein dilyn ar Twitter (@wikimediauk) neu ein "Hoffi" ar Facebook (WikimediaUK).

Gallwch hefyd ein dilyn ar restr drafod ebost ein cymuned (Saesneg).

Rhagor amdanom

Digwyddiadau i'w clustnodi

Torchi llewis a gweithredu

Ymunwch â Wikimedia UK: mae aelodaeth yn agored i bawb ac yn costio £5 yn unig, y flwyddyn. Er bod nifer o'n haelodau'n olygyddion ar un neu nifer o chwaer brosiectau Wikimedia, does dim rhaid i chi fod! Mae ein haelodau'n chwarae rhan allweddol yn llunio dyfodol ein mudiad, drwy ethol Bwrdd rheoli a llunio strategaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Digwyddiadau: trefnwn nifer o ddigwyddiadau'n flynyddol, gan gynnwys cyfarfodydd megis y golygathon, wici gyfarfodydd, digwyddiadau "y tu ôl i'r llen", gweithdai a chynadleddau. Mae bron yr holl ddigwyddiadau hyn am ddim ac yn agored i'r byd a'r betws - dewch draw i'n cyfarfod ac i ymuno yn yr hwyl!

Rydym wastad yn awyddus i gyfarfod darpar olygyddion a gwirfoddolwyr newydd. Os oes gennych chwip o syniad da, neu amser, neu sgiliau y carwch eu rhannu gyda Wicimedia UK, beth am ebostio un o aelodau'r Bwrdd? Ac i goroni'r cyfan, mae gennym arian i gynorthwyo a chefnogi prosiectau o fewn ein cymuned.

English


Для української мови Вікіпедії ласка, відвідайте http://uk.wikipedia.org; для Вікімедіа Україна відвідайте http://ua.wikimedia.org
For the Gaelic language Wikipedia please visit http://http://gd.wikipedia.org/wik; for Wikimedia Ukraine please visit http://ua.wikimedia.org

Os oes gennych unrhyw syniadau ar gynnwys neu ar olwg y wefan hon, gadewch sylw ar y Dudalen Sgwrs, neu arbrofwch yn y Blwch Tywod.Lua error: Internal error: The interpreter exited with status 126.