I weld holl ddigwyddiadau 2013 (a fu ac a ddaw), cliciwch yma
Torchi llewis a gweithredu
Mae'n hawdd ymwneud â Wikimedia UK.
Ymunwch â Wikimedia UK: mae aelodaeth yn agored i bawb ac yn costio £5 yn unig. Er bod nifer o'n haelodau'n olygyddion ar un neu nifer o chwaer brosiectau Wikimedia, does dim rhaid i chi fod! Mae ein haelodau'n chwarae rhan allweddol yn llunio dyfodol ein mudiad, drwy ethol Bwrdd rheoli a llunio strategaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Digwyddiadau: trefnwn nifer o ddigwyddiadau'n flynyddol, gan gynnwys cyfarfodydd megis y golygathon, wici gyfarfodydd, digwyddiadau "drws cefn", gweithdai a chynadleddau. Mae bron yr holl ddigwyddiadau hyn am ddim ac yn agored i'r byd a'r betws - dewch draw i'n cyfarfod ac i ymuno yn yr hwyl!
Rydym wastad yn awyddus i gyfarfod darpar olygyddion a gwirfoddolwyr newydd. Os oes gennych chwip o syniad da, neu amser, neu sgiliau y carwch eu rhannu gyda Wicimedia UK, beth am ebostio un o aelodau'r Bwrdd? Ac i goroni'r cyfan, mae gennym arian i gynorthwyo a chefnogi prosiectau o fewn ein cymuned.