Expert outreach/Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol: Difference between revisions
| Line 78: | Line 78: | ||
|- | |- | ||
|Llyfrgell Genedlaethol Cymru || [[User:jason.nlw|Jason Evans]] || 19 Ebrill - 19 Mai 2015 || 19 Mai 2015 || [[w:User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 4|Darllen yr adroddiad llawn]] | |Llyfrgell Genedlaethol Cymru || [[User:jason.nlw|Jason Evans]] || 19 Ebrill - 19 Mai 2015 || 19 Mai 2015 || [[w:User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 4|Darllen yr adroddiad llawn]] | ||
|} | |||
{| class="wikitable collapsible collapsed" | |||
|- | |||
! Adroddiad Mis 5 | |||
|- | |||
! Sefydliad!! Enw'r Preswylydd!! Cyfnod!! Dyddiad yr adroddiad!! Adroddiad llawn | |||
|- | |||
|Llyfrgell Genedlaethol Cymru || [[User:jason.nlw|Jason Evans]] || 19 Mai - 19 Mehefin 2015 || 22 Mehefin 2015 || [[w:User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 5|Darllen yr adroddiad llawn]] | |||
|} | |} | ||
Revision as of 14:17, 22 June 2015
Ers 19eg o Ionawr 2015, mae Wikimedia UK a'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn cydweithio ar brosiect i ddatblygu adnoddau, ffeiliau digidol a mathau eraill o wybodaeth ar drwydded agored. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio ehangu a gwella'r mynediad i'r wybodaeth a gedwir gan y Llyfrgell. Bydd y Wicipediwr Preswyl yn canolbwyntio ar y gwaith hwn ac hefyd yn hwyluso rhaglen o ‘Editathons’ a gweithdai staff. Mae'r prosiect hwn yn cydfynd a'r pwyslais ar bartneriaethau diwylliannol a chymorth arbenigol gan Wikimedia UK. Amcan y dudalen hon yw ysgogi trafodaeth a darparu gwybodaeth am brosiectau cyfredol a phrosiectau posib ar gyfer y dyfodol yn sgil y cydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wikimedia. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ddigwyddiadau a drefnwyd gan Wikimedia yn y LLGC, neu gyfrannu at gymuned Wikimedia yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â'r Wicipediwr Preswyl Jason Evans
Nodau ac amcanion
Bydd y cyfnod preswyl yn parhau am flwyddyn gyda'r nod o godi pontydd parhaol rhwng y Llyfrgell a Wicipedia. Bydd y Wicipediwr preswyl yn cydweithio'n agos gyda staff y Llyfrgell i hwyluso rhyddhau casgliadau digidol dan drwyddedau agored i'w defnyddio ar Wicipedia a mannau eraill. Yn ogystal, bydd ffocws ar wella cynnwys Wicipedia drwy gynnal cyfres o ‘Olygathonau’ (Editathons). Hefyd bydd cyfres o weithdai ar ddefnyddio a golygu Wicipedia yn cael eu cynnig i bob aelod o staff.
Trwy gefnogi a chyfranogi yn natblygiad adnodd sydd â phroffil mor uchel, bydd y fenter hon yn cyfrannu at gyflawni ein hamcan o ddarparu 'Gwybodaeth i Bawb' ac yn ei dro yn denu pobl yn ôl at wasanaethau a chasgliadau’r Llyfrgell.
Gweithgareddau
Wrth i'r cyfnod preswyl fynd yn ei flaen bydd log o brosiectau neu ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu, cyfraniadau sydd ar y gweill, a chyfraniadau sydd wedi'u nodi ar gyfer y dyfodol, yn cael ei ddiweddaru yma. Rwy’n annog pob defnyddiwr Wikimedia, yn arbennig y rhai yng Nghymru, i gysylltu â mi unrhyw bryd gydag awgrymiadau neu gynigion i helpu!
- Mae rhestr o dros 5000 o erthyglau Gymraeg efo Geotags, ond heb ddelweddau, wedi cael ei greu yma. Y nod yw defnyddio'r rhestr hon wrth hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i olygu ac ychwanegu delweddau at Wici. Hefyd mae yna gyfle i gynnal digwyddiad penodol i ychwanegu delweddau i’r erthyglau hyn. Chwefror 2, 2015
- Golygathon Ffotograffwyr Cymraeg. 10 Ebrill 2015.
- Golygathon Gallipoli. RhBC. 23 Ebrill 2015
- Golygathon Athena Swan, Coleg Meddygol Abertawe. 18 Mai 2015
- Rhannu a Golygathon Patagonia 19 Mehefin 2015
- Golygathon Cwpan y Byd Rygbi. 9 Medi 2015
Cefndir
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yn ôl papur a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru [1], mae’r casgliadau yn cynnwys
- 6 miliwn o llyfr, cylchgrawn, papur newydd a deunydd print arall
- 25,000 llawysgrif (yr hynaf yn dyddio o 113 AD, ac yn cynnwys y llawysgrifau cynharaf yn y Gymraeg)
- 2,500 casgliadau archifol
- 1 miliwn mapiau
- 40,000 o lluniau
- 800,000 o ffotograffau
- 5.5miliwn troedfedd o ffilm
- 250,000 awr o fideo
- 200,000 awr o recordiadau sain
Y Wicipediwr Preswyl
Wicipediwr (neu Wicipediwr) Preswyl yw Wicipediwr sy'n gweithio yn fewnol mewn sefydliad. Yn sylfaenol mae’r rôl yn ymwneud â galluogi’r sefydliad a'i aelodau i barhau perthynas gynhyrchiol gyda'r gwyddoniadur a'i chymuned ar ôl i'r cyfnod preswyl ddod i ben. Y nod yw hyrwyddo dealltwriaeth o brosiectau Wikimedia ymysg staff y Llyfrgell, yn ogystal â sefydliadau GLAM yng Nghymru yn fwy cyffredinol, drwy drefnu gweithdai a digwyddiadau. Mae Wicipediwr Preswyl hefyd yn gweithio gyda staff i ddigido, crynhoi, a threfnu adnoddau y gellir eu rhannu a chymuned Wikimedia.
Planning and reporting
- Adroddiadau misol
| Adroddiad Mis 1af | ||||
|---|---|---|---|---|
| Sefydliad | Enw'r Preswylydd | Cyfnod | Dyddiad yr adroddiad | Adroddiad llawn |
| Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Jason Evans | 19 Ionawr - 19 Chwefror 2015 | 19 Chwefror 2015 | Darllen yr adroddiad llawn |
| Adroddiad Mis 2 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Sefydliad | Enw'r Preswylydd | Cyfnod | Dyddiad yr adroddiad | Adroddiad llawn |
| Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Jason Evans | 19 Chwefror - 19 Mawrth 2015 | 19 Mawrth 2015 | Darllen yr adroddiad llawn |
| Adroddiad Mis 3 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Sefydliad | Enw'r Preswylydd | Cyfnod | Dyddiad yr adroddiad | Adroddiad llawn |
| Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Jason Evans | 19 Mawrth - 19 Ebrill 2015 | 19 Ebrill 2015 | Darllen yr adroddiad llawn |
| Adroddiad Mis 4 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Sefydliad | Enw'r Preswylydd | Cyfnod | Dyddiad yr adroddiad | Adroddiad llawn |
| Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Jason Evans | 19 Ebrill - 19 Mai 2015 | 19 Mai 2015 | Darllen yr adroddiad llawn |
| Adroddiad Mis 5 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Sefydliad | Enw'r Preswylydd | Cyfnod | Dyddiad yr adroddiad | Adroddiad llawn |
| Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Jason Evans | 19 Mai - 19 Mehefin 2015 | 22 Mehefin 2015 | Darllen yr adroddiad llawn |
Sylw yn y Wasg
- 19 Mai – Cyfweliad BBC Radio Cymru (rhaglen Sian Cothi) (dim linc)
- Chwefror - Colofn 20 cwestiwn, Cylchgrawn 'Y Golwg'. Argraffiad mis Chwefror. (dim link)
- 21 Ionawr – Cyfweliad BBC Radio Cymru (dim linc)
- 21 Ionawr - "Wikipedian takes up residence at The National Library", Cambrian News 21/Jan/2015 (dim linc)
- Mehefin - 'Aberystwyths Wikipedian', Aberystwyth Ego, tud.14. (dim linc)
- 1 Mehefin - 'Beibl o’r Mimosa mewn arddangosfa' (Darn bach ar golygathon Batagonia) Y Golwg 360
Blogiau
- ‘Brwydrau Alecsander Fawr’ – Delweddau wedi eu rhyddhau. gan Jason Evans. 10 Mehefin 2015.
- Blog Wikimedia UK - "Mis Un- Gosod Sylfaen" Gan Jason Evans. 3 Mawrth 2015.
- Glam Newsletter "Wales" Gan Robin Owain. Ionawr 2015
- Blog y LLGC - "Wicipediwr Preswyl - Sut fydd o'n gweithio?" gan Jason Evans. 20 Ionawr 2015.
- Blog y LLGC - "Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol" Gan LLGC. 15 Ionawr 2015.
Cyswllt
Cysylltwch efo Jason Evans drwy e-bost jje@llgc.org.uk neu gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs Jason.nlw (talk) 09:57, 27 January 2015 (GMT)
